19 Tach 2019

Mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu’n cael eu hethol gan y cyhoedd er mwyn dal Prif Gwnstabliaid a gwasanaethau heddlu i gyfrif. Mae gan ymgysylltu rôl ganolog i’w chwarae o ran helpu’r Comisiynydd a’i dîm i gyflawni eu cyfrifoldebau ar gyfer cymunedau Dyfed-Powys, ac mae ymgysylltu ystyrlon yn flaenoriaeth ar gyfer Dafydd Llywelyn.

Mae datblygu perthnasau da yn lleol yn arbennig o bwysig, yn enwedig pan mae’r gwaith yr ymgymerir ag ef yn ymwneud yn uniongyrchol â chymunedau lleol, ac yn effeithio arnynt. Hefyd, mae’n bwysig iawn fod pob cymuned yn cael cyfleoedd cyfartal i gael eu clywed, a dyna pam y teithiodd y Comisiynydd i Bowys ar 6 Tachwedd ac aros yno tan 7 Tachwedd.

Roedd y ddau ddiwrnod yn rhai prysur. Dyma rai o uchafbwyntiau’r diwrnod cyntaf:

  • Cyfarfod gyda Linda Pepper o Dyfodol Powys yn Llandrindod – Derbyniodd Dyfodol Powys arian o Gronfa’r Comisiynydd yn 2019 am y rhaglen Estyn Allan.
  • Cyfarfod gyda Nia Lloyd, Cyfarwyddwr CFfI Cymru, yn Llanfair-ym-Muallt – Derbyniodd y CFfI arian o Gronfa’r Comisiynydd yn 2019 am y prosiect ‘Beth yw’r Crac’.
  • Ar ddiwedd y diwrnod cyntaf, aeth y Comisiynydd i gyfarfod cyhoeddus yn Llanwrtyd. Roedd y Tîm Plismona Bro lleol hefyd yn bresennol. Roedd yn gyfle gwych i’r Comisiynydd ddarganfod mwy am bryderon lleol, ac yn bwysicaf oll, i’r gymuned drafod y pryderon hyn gyda’u swyddogion lleol. Crëwyd cysylltiad hollbwysig rhwng y ddau grŵp, sydd nawr yn ystyried treialu cymhorthfa heddlu reolaidd yn Llanwrtyd.

Diwrnod dau

  • Cychwynnodd yr ail ddiwrnod ag ymweliad dirybudd â dalfa’r Drenewydd, gyda’r Comisiynydd yn cysgodi dau o’i Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa er mwyn sicrhau y darperir ar gyfer lles ac anghenion y rhai sydd yn y ddalfa.
  • Yna, aethpwyd ymlaen i Goleg Castell-nedd Port Talbot yn y Drenewydd. Aeth y Comisiynydd i sesiwn flasu ar gyfer myfyrwyr Lefel A Gwasanaeth Cyhoeddus a gyflwynwyd gan Uned Plismona’r Ffyrdd Powys, gan gwrdd â myfyrwyr o’r cwrs Porth i Addysg Bellach er mwyn gweld rhywfaint o’r gwaith a wnaed ganddynt ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb. I orffen yr ymweliad â’r Coleg, cafodd gyfarfod gyda Sara Clutton, Rheolwr Theatr Hafren ac arweinydd Prosiect Ymyrraeth Ieuenctid Creadigol Hafren, a dderbyniodd arian o Gronfa Gymunedol y Comisiynydd.
  • Nesaf, ymwelodd y Comisiynydd â Joy Jones, cynghorydd lleol, er mwyn sgwrsio am faterion lleol. Yna, aeth yn ei flaen i Ystâd Trehafren i gwrdd â Gwen Evans, Swyddog Ieuenctid y Drenewydd a’r Trallwng, a Melanie Pettit, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol Hafren, i drafod cynlluniau ar gyfer y prosiect sy’n cael ei ariannu drwy Gronfa Gymunedol y Comisiynydd – y Prosiect Ymyrraeth Ieuenctid Creadigol.
  • Daeth y diwrnod i ben gydag ymweliad â Chlwb Ieuenctid y Drenewydd, lle ceisiodd y Comisiynydd farn aelodau ifainc y clwb ieuenctid am y gwasanaeth heddlu lleol.

Dywedodd Dafydd Llywelyn:

“Rwyf wir yn gwerthfawrogi’r cyfle i fynd allan i gwrdd â chymaint o bobl a grwpiau â phosibl ar ddiwrnodau ymgysylltu fel rhain.

“Mae’r rhain yn gyfleoedd gwych i mi drafod yn agored â’r cyhoedd, partneriaid a rhanddeiliaid, fel bod y penderfyniadau rwy’n gwneud yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn o’r materion sy’n effeithio arnynt ac sy’n bwysig iddynt.

“Hefyd, mae’n galonogol iawn gweld y gwahaniaeth mae arian o’m Cronfa Gymunedol yn ei wneud â’m llygaid fy hun.

“Byddaf yn parhau i ymweld ag ardaloedd gwahanol yn ystod fy niwrnodau ymgysylltu oherwydd mae’n hynod bwysig fy mod i’n cael clywed eich barn. Gan hynny, os hoffech ofyn am ymweliad neu apwyntiad, cysylltwch â’m swyddfa: opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk / 01267 226440.”

diwedd

Nodiadau

Beth yw Comisiynydd Heddlu a Throseddu? Nid yr Heddlu yw Comisiynwyr Heddlu a Throseddu – fel llais etholedig y cyhoedd maent yn sicrhau bod yr heddlu’n atebol i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Maent yn gweithio mewn partneriaeth ar draws amrywiaeth o asiantaethau er mwyn sicrhau ymagwedd unedig tuag at atal a lleihau trosedd.

Beth allant ei wneud? Amcan Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yw lleihau trosedd, trosglwyddo gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon, darparu atebolrwydd cryfach a mwy tryloyw o ran yr heddlu, dal prif swyddogion a’r heddlu i gyfrif, sicrhau bod anghenion y gymuned yn cael eu cyflawni mewn modd mor effeithiol â phosibl a gwella perthnasau lleol. Mae gweithredoedd plismona dydd i ddydd o dan gyfarwyddyd prif gwnstabliaid.

Pwy yw CHTh Dyfed-Powys? Etholwyd Dafydd Llywelyn yn Gomisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Dyfed Powys ym Mai 2016. Cyn hynny roedd ganddo brofiad helaeth o weithio o fewn cyfiawnder troseddol, gyda dros 13 mlynedd yn Heddlu Dyfed-Powys. Ef oedd prif ddadansoddydd trosedd a chudd-wybodaeth yr heddlu cyn dod yn ddarlithydd troseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Beth yw Ymwelydd Annibynnol â'r Ddalfa? Galwch heibio i wefan y Comisiynydd ar http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/en/the-office/volunteer-schemes/independent-custody-visitors/

 

Comisiynydd yn cyfarfod amlasiantaethol yn y Dre Newydd

Comisiynydd yn cyfarfod amlasiantaethol yn y Dre Newydd

Comisiynydd yn Goleg Castell-nedd Port Talbot.

Comisiynydd yn Goleg Castell-nedd Port Talbot.

Comisiynydd yn gyfarfod cyhoeddus yn Llanwrtyd.

Comisiynydd yn gyfarfod cyhoeddus yn Llanwrtyd.