14 Rhag 2018

Wedi oediad poenus, fe gyhoeddwyd Setliad Dros Dro’r Llywodraeth sydd yn cadarnhau sefyllfa Heddlu Dyfed-Powys yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20.  Ar yr olwg gyntaf mae’n ymddangos fel bydd Heddlu Dyfed-Powys yn profi cynnydd ariannol o £8.1 miliwn yn 2019/20.  Er hynny mae’r ffigwr wedi ei selio ar y rhagdybiaeth fydd CHTh Dafydd Llywelyn yn cynyddu’r lefel braesept bresennol ar gartref band D gan £24 yn flynyddol.

Dywedodd CHTh Dafydd Llywelyn: “Mae’r ffordd mae’r Swyddfa Gartref a’r Llywodraeth ganolig yn camarwain y cyhoedd yn warthus ac rydw i’n siomedig tu hwnt yn y ffordd y mae’r setliad yn rhoi’r fath faich ar y cyhoedd unwaith eto.  Rydw i’n parhau i geisio gwneud y peth iawn i amddiffyn ein cymunedau ond teimlaf fod y Llywodraeth yn Llundain yn ein gadael i lawr gan y bydd eu gweithrediadau yn debygol o effeithio ar ein gwasanaethau.”

“Yn bresennol dwi’n parhau i ymgynghori â thrigolion Dyfed-Powys wrth ofyn a byddant yn barod i dalu praesept plismona ychwanegol i barhau i ddiogelu ein cymunedau.  O fewn yr arolwg rydw i wedi amlinellu’r effaith ar gyfer Dyfed-Powys a’i gymunedau.  Bydd fy mhenderfyniad yn cael ei wneud wrth wrando ar gymunedau lleol a chyngor proffesiynol y Prif Gwnstabl.”

“Rydw i’n gweithio’n agos gyda’r Prif Gwnstabl i adolygu holl agweddau anghenion y gyllideb.  Oherwydd difrifoldeb yr heriau ariannol yr ydym yn eu hwynebu, ni fydd modd osgoi cynnydd i’r braesept, ond ni ddylai cyfanswm y cynnydd gael ei orchymyn gan y Llywodraeth.

Os ydych yn byw yn Nyfed-Powys a hoffech gael eich dweud, cwblhewch fy arolwg drwy glicio ar y dolenni isod: