18 Tach 2022

 

Mae’r mis hwn yn nodi deng mlynedd ers i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (CHTh) gael eu hethol yn ddemocrataidd am y tro cyntaf a dechrau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy roi llais cryfach i’r cyhoedd mewn plismona a chyfiawnder troseddol.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn parhau i gyflawni yn effeithiol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gadw eu cymunedau'n ddiogel; sut maent yn gweithio eu heddluoedd, asiantaethau cyfiawnder troseddol a sefydliadau partner i atal a lleihau trosedd, amddiffyn dioddefwyr a lleihau aildroseddu.

Rôl y CHTh yw bod yn llais y bobl a dal yr heddlu i gyfrif. Maent yn gyfrifol am blismona yn ei gyfanrwydd.

Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn sicrhau bod anghenion cymunedol yn cael eu diwallu mor effeithiol â phosibl ac yn gwella perthnasoedd lleol trwy feithrin hyder ac adfer ymddiriedaeth.  Maent yn gweithio mewn partneriaeth ar draws ystod o asiantaethau ar lefel leol a chenedlaethol i sicrhau bod dull unedig o atal a lleihau trosedd.

Maent hefyd yn comisiynu gwasanaethau cymorth yn uniongyrchol gan ddarparwyr arbenigol i helpu i atal trosedd, cefnogi'r rhai sy'n agored i niwed a mynd i'r afael â materion sy'n bwysig. Mae enghreifftiau o’r gwasanaethau cymorth hyn yn Nyfed-Powys yn cynnwys Goleudy, sy’n cynnig cymorth personol, emosiynol ac ymarferol i helpu dioddefwyr, teuluoedd a thystion i oroesi trosedd a’u gwneud yn gryfach, ynghyd ag asiantaethau fel Hafan Cymru, Pobl a New Pathways, sy’n darparu cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig, a cham-drin rhywiol.

Mae Dyfed-Powys wedi cael dau Comisiynydd yn y 10 mlynedd diwethaf. Etholwyd Christopher Salmon yn Gomisiynydd Heddlu a Throseddu cyntaf Dyfed-Powys ym mis Tachwedd 2012. Etholwyd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd presennol Dafydd Llywelyn yn 2016 a, cafodd ei ail-ethol yn 2021.

Wrth iddo fyfyrio ar ei gyfnod yn y Swydd fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu, dywedodd Mr Llywelyn: “Mae’r mis hwn yn garreg filltir i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu ar draws Cymru a Lloegr wrth i ni ddathlu 10 mlynedd ers yr etholiad cyntaf nôl yn 2012. Mae tri etholiadau ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn ardal heddlu Dyfed Powys wedi bod, ac mae'n fraint ddiffuant i mi ddal swydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer ardal y cefais fy magu a byw ynddi. Mae'n anrhydedd fawr i gynrychioli’r cyhoedd ar faterion plismona a’r system gyfiawnder lleol, a chyfeiriaf yn aml at fy rôl fel pont rhwng y cyhoedd a’r gwasanaethau pwysig hyn.

“Cefais fy ysgogi i sefyll etholiad fel y CHTh i geisio defnyddio fy mhrofiadau personol mewn ffordd cadarnhaol i ddylanwadu ar yr Heddlu a darparwyr gwasanaeth a phartneriaid eraill. Addewais system teledu cylch cyfyng newydd ar gyfer ardal yr Heddlu ac mae hon wedi'i chyflwyno i 25 o drefi ac yn cael ei monitro ym Mhencadlys yr Heddlu gan weithredu fel ased ar gyfer ymchwiliadau a chael y dystiolaeth orau yn ogystal ag atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bellach mae gennym ni fwy o Swyddogion Heddlu nag erioed o’r blaen, gyda dros 1,300 o Swyddogion Heddlu yn gweithio yn ein cymunedau.

“Mae hon yn ddyletswydd a chyfrifoldeb rwy’n ei chymryd o ddifrif ac rwy’n mwynhau fy ngwaith yn fawr”.

I ddarganfod mwy am rôl y CHTh a sut y gallwch chi gefnogi a chymryd rhan yng ngwaith ei Swyddfa, ewch i wefan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.

 

DIWEDD

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk