30 Tach 2023

Ddoe (29.11.23), roedd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar Ddiwrnod Ymgysylltu Cymunedol yn Aberhonddu, Powys.

Yn ystod y dydd cyfarfu CHTh Dafydd Llywelyn â Maer Tref Aberhonddu a Chynghorwyr tref a gafodd gyfle i godi materion a phryderon lleol gyda’r Comisiynydd.

Cyfarfu'r CHTh hefyd â Kaleidoscope - sy'n un o Wasanaethau a Gomisiynir gan y CHTh, sy'n darparu gwasanaethau cymorth i bobl sy'n ddibynnol ar alcohol a chyffuriau. Mae ganddyn nhw ganolfannau triniaeth yn Y Trallwng, Aberhonddu, Y Drenewydd a Llandrindod.

Yn dilyn y cyfarfod hwn, aeth y CHTh allan ar batrôl troed gyda PCSOs o’r Tîm Plismona Bro lleol, cyn cyfarfod â chydweithwyr o Pobl yn Gyntaf Powys sy’n helpu i drefnu grwpiau hunan-eiriolaeth ar gyfer pobl ag anabledd dysgu ar draws Powys
📸👇