26 Medi 2019

Bydd Dafydd Llywelyn, eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu, heddiw’n cynrychioli preswylwyr Dyfed-Powys wrth iddo gadeirio Grŵp Plismona Cymru Gyfan am yr eildro.

Daw Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a Phrif Gwnstabliaid Cymru at ei gilydd yn fisol i ffurfio Grŵp Plismona Cymru Gyfan, lle mae’r rhai sy’n bresennol yn cael cyfle i drafod materion plismona lefel uchel sy’n cael effaith ar breswylwyr ar draws ardaloedd pedwar heddlu Cymru.

Gyda’i gilydd, mae aelodau Grŵp Plismona Cymru Gyfan yn ystyried sut y gall heddluoedd gydweithio a chefnogi eu gweithgareddau ei gilydd er mwyn trosglwyddo’r gwasanaeth plismona gorau posibl ar draws y wlad.

Meddai Dafydd Llywelyn: “Mae’n dda gen i groesawu fy Nghyd-gomisiynwyr a Phrif Gwnstabliaid o ledled Cymru i’r Grŵp Plismona Cymru Gyfan heddiw fel y gallwn adeiladu ar benderfyniadau a chynlluniau a drafodwyd yn fy nghyfarfod cyntaf fel cadeirydd yng Ngorffennaf a sefydlu trefniadau craffu ar y cyd.

“Rwyf yn edrych ymlaen at barhau ein gwaith a chryfhau ein perthynas gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill yng Nghymru er mwyn sicrhau ein bod yn cefnogi dioddefwyr trosedd ac yn darparu gwasanaeth plismona effeithiol a chydgysylltiedig ar draws y wlad.”

Bydd Dafydd Llywelyn yn cadeirio cyfarfod nesaf Grŵp Plismona Cymru Gyfan ar y 5ed o Ragfyr.