26 Chw 2020

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn yn ymfalchio ar ddylanwad menter newydd yn Llanelli – Seaside Kicks.

 

Yn dilyn derbyn nawdd gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, mae menter newydd i ieuentid wedi ei sefydlu mewn partneriaeth a Chlwb Pel-droed Abertawe. Lansiwyd Seaside Kicks yn Llanelli ym mis Ionawr 2020 er mwyn cael ieuenctid ardal Glanymor a Tyisha i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol.

Bellach mae dros 150 o ieuenctid yr ardal yn cymryd rhan mewn gweithgraeddau ymarferol amrwyiol yn wythnosol gyda’r Seaside Kicks. Mae’r ieuenctid yn cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi pel-droed yn ogystal a sesiynau addysgiadol, anffurfiol sy’n mynd i’r afael a nifer o faterion yn ymwneud a throseddau amrywiol.

Mae’r fenter yn cael ei rhedeg drwy raglen genedlaethol ‘Kicks’ Uwch Gynghrair Lloegr, ac sy’n cael ei darparu yn lleol gan Glwb Peldroed Dinas Abertawe. Nod y rhaglen yw defnyddio peldroed a chwaraeon yn gyffredinol i ysbrydoli ieuenctid sy’n byw mewn ardaloedd di-frenitiedig.

Wrth ymweld ag un o’r sesiynau sy’n cael eu cynnal ar gae 3G Ysgol Penrhos, Llanelli ar 25 Chwefror 2020, dywedodd Dafydd Llywelyn “Mae’n fraint i mi gael bod yma i weld drosof fy hun y dylanwad cadarnhaol mae menter fel Seaside Kicks yn ei gael ar ieuenctid, a’r gymuned ehangach. Fel un sydd yn ymddiddori mewn chwaraeon, ac wedi chwarae peldroed ar sawl lefel yn fy ieuenctid, rwy’n llawn ymwybodol o ddylanwad y mae chwaraeon ac ymarfer corff yn ei gael ar iechyd a lles unigolion a chymunedau yn gyffredinol.”

Mae’r buddsoddiad yn Seaside Kicks yn rhan o fuddsoddiad ehangach y Comisiynydd yn ardal Glanymor a TyIsha, ardal sydd wedi ei hadnabod fel un o’r adrdaloedd mwyaf di-frentiedig yng Nghymru. Mae’r Comisiynydd wedi neullto cyllideb o £50,000 ar gyfer brosiectau a mentrau cymunedol yn yr ardal.

 

DIWEDD