19 Meh 2023

Bydd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys Dafydd Llywelyn a’i Fforwm Ieuenctid yn cynnal Cynhadledd Ieuenctid ym mis Gorffennaf i drafod materion y mae pobl ifanc wedi’u hamlygu fel blaenoriaeth i’r Heddlu a sefydliadau partner.

Bwriad y gynhadledd, a gynhelir ar y 5ed o Orffennaf ym Mharc y Scarlets Llanelli, yw trafod canfyddiadau ymgynghoriad ieuenctid diweddar 'Y Sgwrs' a ofynnodd i bobl ifanc sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys a Sir Benfro am eu barn a'u profiadau o cymorth iechyd meddwl i ddioddefwyr ifanc trosedd, camddefnyddio sylweddau a throseddau ieuenctid. Gofynnodd yr ymgynghoriad i bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc esbonio beth sy’n gweithio, beth sydd ddim yn gweithio a sut y gellid gwella pethau.

Mae sefydliadau ieuenctid lleol, ysgolion, colegau, prifysgolion a phartneriaid yn cael eu hannog i fynychu’r gynhadledd i ymgysylltu â’r Comisiynydd a’i fforwm ieuenctid, fel y gallant fod yn rhan o’r ateb ar gyfer lleihau trosedd yn ardal Dyfed-Powys a nodi ffyrdd o gydweithio i helpu i gefnogi'r rhai sydd mewn perygl o droseddu.

Bydd y cyfranogwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn sgyrsiau ystyrlon, cyfnewid syniadau, a rhwydweithio ag unigolion o'r un anian. Mae’r Gynhadledd Ieuenctid hefyd yn cynnig llwyfan i bobl ifanc leisio’u pryderon, rhannu straeon personol, a chyfrannu at ddatblygu strategaethau a pholisïau a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu bywydau.

Yn siarad yn y gynhadledd bydd cynrychiolwyr o'r Fforwm Ieuenctid, yn ogystal â;

  • Rachel Wilson, o Choices, sy'n darparu gwasanaeth camddefnyddio sylweddau arbenigol i bobl ifanc yn Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin;
  • Debbie Woodroffe o New Pathways, sy'n darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl i ddioddefwyr ifanc troseddau;
  • Gill Adams, Prif Reolwr y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn Sir Gaerfyrddin
  • Iwan Thomas a Ceri Scourfield o PLANED, i drafod prosiect CWBR Youth.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn; "Rydym yn credu'n gryf bod buddsoddi yn lles a photensial ein hieuenctid yn hanfodol i greu cymunedau mwy diogel a chryfach. Drwy gynnal y Gynhadledd Ieuenctid hon, rydym wedi ymrwymo i hwyluso trafodaethau ystyrlon ac ymdrechion cydweithredol sy'n mynd i'r afael ag iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, a troseddu ieuenctid yn uniongyrchol. Rydym am sicrhau bod pobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu grymuso, a'u bod yn meddu ar yr adnoddau angenrheidiol i wneud dewisiadau cadarnhaol."

I gael rhagor o wybodaeth a manylion cofrestru, ewch i wefan swyddogol y gynhadledd: https://bit.ly/CynhadleddYSgwrs.

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk