14 Gor 2021

Mae Llysgenhadon Ieuenctid Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Dyfed-Powys wedi derbyn canmoliaeth genedlaethol am eu gwaith yn datblygu fideo byr yn rhannu profiadau pobl ifanc o gyswllt yr heddlu, gyda'r nod o dorri rhwystrau a rhagdybiaethau rhwng pobl ifanc a'r Heddlu.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi croesawu’r fideo fel adnodd gwerthfawr, ac wedi cadarnhau y bydd yn rhan o gyrsiau hyfforddi ar gyfer staff yr heddlu a swyddogion yn Dyfed-Powys.

Nos Fawrth, 13eg Gorffennaf, cafodd y fideo ei drosglwyddo'n swyddogol i'r Heddlu mewn cyfarfod rhwng y Fforwm Ieuenctid, y CHTh, a chynrychiolwyr o Heddlu Dyfed-Powys lle’r eglurodd yr Heddlu sut maen nhw'n cynllunio ar gyfer gweithredu'r fideo o fewn eu rhaglenni hyfforddiant yn yr heddlu.

Mae Celyn Mai Clement, Llysgennad Ieuenctid i'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, wedi bod yn aelod o'r Fforwm Ieuenctid ers sawl blwyddyn, ac yn un o'r bobl ifanc y tu ôl i'r fideo.

Meddai Celyn; “Mae’r prosiect hwn wedi bod yn hanfodol i ni fel Llysgenhadon Ieuenctid y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed, a bod cyfle inni ddylanwadu ar waith yr Heddlu.

“Rydyn ni wrth ein bodd bod Heddlu Dyfed-Powys wedi croesawu’r prosiect, ac eisoes wedi gwneud cynlluniau i’w gynnwys fel rhan o’u rhaglenni hyfforddi, a hoffem ddiolch i’r Comisiynydd Dafydd Llywelyn am gefnogi’r syniad yn y lle cyntaf, ac am y cymorth i sicrhau bod ein gweledigaeth yn dod yn realiti”.

Datblygwyd y prosiect yn dilyn trafodaethau grŵp ffocws gyda Fforwm Ieuenctid y CHTh yn edrych ar ganfyddiadau adroddiad diweddar a gomisiynwyd gan CHTh Dafydd Llywelyn yn 2020, yn edrych ar farn pobl ifanc am blismona, trosedd a lles yn ardal Dyfed-Powys.

Ar y cyfan, canfu'r adroddiad fod pobl ifanc yn teimlo'n ddiogel ac wedi cael profiadau cadarnhaol gan yr heddlu yn Dyfed-Powys. Fodd bynnag, mynegodd lleiafrif elfennau o ofn ac ymddiriedaeth tuag at yr Heddlu. Awgrymodd y Llysgenhadon Ieuenctid y dylai'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd weithio gyda nhw i chwalu rhwystrau o'r fath trwy ddatblygu fideo a fyddai'n rhannu profiadau cadarnhaol a negyddol pobl ifanc o gyswllt yr heddlu.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn; “Hoffwn longyfarch fy holl Lysgenhadon Ieuenctid am eu gwaith ar y fenter wych hon. Maent wedi gwneud gwaith rhagorol i ni wrth ymgysylltu a chwrdd â phobl ifanc eraill ledled yr ardal i ddod o hyd i unigolion a fyddai’n barod i gymryd rhan yn y prosiect a rhannu eu profiadau.

“Mae’r straeon a’r profiadau yn y fideo yn bwerus, a heb os, byddant yn adnodd dysgu gwerthfawr ar gyfer rhaglenni hyfforddi’r Heddlu. Nid wyf yn credu am eiliad bod yna achos i bryderu am berthynas yr Heddlu a phobl ifanc yma yn Dyfed-Powys, diolch byth, ond heb os, os byddwn yn gweld cyfleoedd I wella’n gwasanaeth, byddwn yn mynd ati I geisio gwneud hynny trwy fentrau creadigol ac effeithiol.fel y prosiect hwn.”

“O'r diwrnod y cefais fy ethol yn 2016, rwyf wedi blaenoriaethu cefnogi pobl ifanc, fel y byddaf unwaith eto ar ôl cael fy ailethol. Mae'n hanfodol ein bod yn darparu gwasanaeth plismona sensitif, perthnasol ac effeithiol i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion a disgwyliadau ein pobl ifanc. "

Mae Sally Holland, Comisiynydd Plant, wedi llongyfarch Fforwm Ieuenctid y CHTh ar eu gwaith, a dywedodd: “Mae’r fideo hwn yn gydweithrediad rhagorol rhwng Heddlu Dyfed Powys a grŵp Llysgenhadon Ieuenctid Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys. Mae profiadau personol y bobl ifanc o ymgysylltu â'r heddlu, yn gadarnhaol ac yn negyddol, yn darparu negeseuon pwerus a fydd, heb os, yn cael effaith mewn sesiynau hyfforddi a datblygu. Maent hefyd yn dangos yr amrywiaeth eang o ffyrdd y gallai plant a phobl ifanc ddod yn gysylltiedig â'r heddlu gan gynnwys riportio trosedd, cael eu harestio a chael eu riportio fel person ar goll.

“Gall y negeseuon a’r cyngor a roddir yn y fideo hwn gan y Llysgenhadon helpu’r rheini sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i amddiffyn a hyrwyddo hawliau plant, gan gynnwys hawl plant i gael eu cadw’n ddiogel, i gael gwrandawiad, i dderbyn gwybodaeth mewn ffordd y gallant ei deall a i'w drin yn deg.

“Mae'r gwaith hwn yn rhan o raglen ehangach o waith cadarnhaol y mae'r Heddlu a'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn ei wneud i gryfhau sut maen nhw'n ymateb i blant a phobl ifanc sy'n byw yn yr ardal. Mae fy nhîm yn falch iawn o fod yn rhan o'r gwaith hwn. "

Dywedodd yr Uwcharolygydd Ross Evans, Pennaeth Dysgu a Datblygu Dyfed-Powys; “Mae'r fideo hyfforddi a grëwyd gan y fforwm ieuenctid yn ardderchog. Mae'n cyflwyno straeon cofiadwy effeithiol. Hoffais yn arbennig y ffocws ar roi'r unigolyn yng nghanol ein hymateb i wrthdaro gwasgaredig a thawelu meddwl yn ystod cyswllt yr heddlu. Rydym yn ddiolchgar am waith gwerthfawr iawn y fforwm ac am y sylfaen a ddarperir ar gyfer hyn gan ein Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Byddwn yn defnyddio'r lluniau yn nifer o'n cyrsiau hyfforddi sydd ar ddod."

Ychwanegodd y Llysgennad Ieuenctid Celyn Mai Clement: “Mae bod yn aelod o Fforwm Ieuenctid y Comisiynydd yn gyfle i bobl ifanc ddylanwadu ar waith yr Heddlu, a’u helpu i ddatblygu a gwella eu gwasanaethau i bobl ifanc. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â'r fforwm i gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd fel y gallwch weithio gyda ni ar fentrau tebyg yn y dyfodol”.

 

DIWEDD

NODIADAU I'R GOLYGYDD:

Nid yw fersiwn lawn o'r prosiect fideo ar gael i'r cyhoedd. Fodd bynnag, gellir gweld fideo promo byr sy'n rhannu rhai o'r negeseuon yma.

GWYBODAETH BELLACH:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.pnn.police.uk