15 Tach 2018

Y Comisiynydd yn annog preswylwyr Abergwaun i ddweud eu dweud am ddyfodol yr orsaf heddlu

 

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, yn awyddus i’r cyhoedd ddweud eu dweud am ddyfodol gorsaf heddlu Abergwaun.

 

Mae’r Comisiynydd yn ystyried gwahanol opsiynau ar gyfer yr orsaf heddlu gan nad yw’r orsaf gyfredol yn hyfyw.

 

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys:

 

“Rydyn ni’n ystyried gwahanol opsiynau ar gyfer gorsaf heddlu Abergwaun. Nid yw’r orsaf bresennol yn hyfyw; mae angen buddsoddiad sylweddol, ac mae’n rhy fawr o lawer ar gyfer gweithredu yn yr ardal yn awr ac yn y dyfodol. Rydyn ni’n wedi cael trafodaethau adeiladol gyda chynghorwyr lleol ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gasglu barn cyhoeddus dros yr wythnosau nesaf. Rydw i eisiau sicrhau’r cyhoedd fy mod i wedi ymrwymo i gynnal presenoldeb heddlu yng nghanol y dref er bod newid yn bosibl o ran lleoliad.”

Roedd y Comisiynydd yn bresennol yng nghyfarfod Siambr Masnach a Thwristiaeth Wdig ym mis Tachwedd, lle cafod drafodaeth agored gyda chynghorwyr ynghylch lleoliadau posibl ar gyfer yr orsaf heddlu. Mae tri dewis yn cael eu hystyried: 

 

1 – Aros yn yr orsaf bresennol hyd nes bydd y Prosiect Canolfan Gymunedol Gydweithredol wedi’i chwblhau;

 

2 – Adleoli i Neuadd y Dref fel canolfan dros dro hyd nes bydd y Prosiect Canolfan Gymunedol Gydweithredol wedi’i chwblhau;

 

3 – Adleoli i swyddfeydd presennol Porthladd Abergwaun a chydlynu’r defnydd o ystafell gyfarfod yng nghanol y dref ar gyfer cyfarfodydd un-i-un gydag aelodau o’r cyhoedd.

 

Fel eich llais ar faterion sy’n ymwneud â phlismona a throsedd, mae’r Comisiynydd yn awyddus i glywed gan breswylwyr lleol er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus ynghylch dyfodol eich gwasanaeth heddlu lleol. Bydd tîm ymgysylltu’r Comisiynydd yn siarad â phreswylwyr lleol ddydd Iau 29 Tachwedd yn ystod Diwrnod Marchnad er mwyn clywed eich barn am y mater. Hefyd, cynhelir arolwg ar-lein ar wefan y Comisiynydd er mwyn i chi ddweud eich dweud - http://bit.ly/GorsafHeddluAbergwaun. Daw’r ymgynghoriad i ben ddydd Gwener 30 Tachwedd.  Fel arall, mae croeso i chi gysylltu â swyddfa’r Comisiynydd ar (01267) 226 440

 

 

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk