03 Ion 2020

Pam fod yr Angel Cyllyll yn y Drenewydd?

Hwn yw’r tro cyntaf i’r Angel Cyllyll ymweld â Chymru, ac rydyn ni’n falch ein bod ni wedi llwyddo i sicrhau Powys fel ei leoliad o ddewis.

Mae’r Angel Cyllyll yn teithio drwy’r DU gan bwyll mewn ymdrech i godi ymwybyddiaeth o’r argyfwng troseddau cyllyll sy’n effeithio ar gymunedau, teuluoedd ac unigolion. Yn ogystal, mae yno i dynnu sylw at y mentrau atal ac addysg sy’n digwydd mewn ysgolion a sefydliadau ieuenctid ledled y Drenewydd ar hyn o bryd. Mae’r cerflun hefyd yn cydnabod bywydau rhai sydd wedi’u handwyo gan weithredoedd a throseddau sy’n gysylltiedig â chyllyll ac yn gweithredu fel cofeb ar gyfer teuluoedd mewn galar.

Pwy greodd yr Angel Cyllyll?

Y cerflunydd Alfie Bradley a greodd yr Angel Cyllyll, ynghyd â Chanolfan Gwaith Haearn Prydain yn Swydd Amwythig. Mae amryw o ddinasoedd wedi bod yn croesawu’r cerflun er mwyn codi ymwybyddiaeth o droseddau cyllyll ledled y DU.

 

Pwy mae’r Angel Cyllyll yn targedu?

Dylai’r Angel Cyllyll daro tant â phawb ohonom, wrth i ni wrando ar adroddiadau newyddion dyddiol am droseddau cyllyll a bywydau coll. Mae’n gobeithio codi ymwybyddiaeth yn y cymunedau mae’n ymweld â nhw drwy ddarparu canolbwynt, i gwestiynu’r marwolaethau disynnwyr a cholli bywydau, yn ogystal â chefnogi’r heddlu a rhaglenni addysg ysgolion.

 

 

 

Oni fydd hyn yn denu troseddau cyllyll yn y Drenewydd?


O ble ddaeth y cyllyll?

Mae’r cerflun wedi’i wneud o 100,000 o arfau miniog (cyllyll fflic, cyllyll poced, twceiod, cleddyfau samwrai, cyllyll cegin) a gasglwyd mewn amnestau gan y 43 heddlu yn y DU. Mae pob un wedi’i sterileiddio a’i ddi-finio.

 

Er ein bod ni’n clywed am y digwyddiadau yn Llundain a Manceinion yn bennaf, mae trais a throseddau cyllyll yn ei ffurf ehangach yn broblem y mae’n rhaid ei hwynebu a’i thrin. Mae croesawu’r Angel Cyllyll yn dangos ein bod ni’n ei chydnabod. Mae’r cerflun hefyd yn gofeb i fywydau ifainc a gollwyd, ac mae’n rhoi cyfle i ni adlewyrchu ar y gofid a achosir i deuluoedd a chymunedau gan droseddau cyllyll.

Ychydig flynyddoedd yn ôl, ymwelais â Chanolfan Gwaith Haearn Prydain, a dyna pryd y gwelais yr Angel Cyllyll am y tro cyntaf. Yn ogystal â’i faint, cefais fy syfrdanu gan y neges bwerus iawn a’r hanes tu ôl i’w greu. Yn ddiweddar, gwelais ei fod ar daith a’i fod yn dod yn symbol ar gyfer atal trais, ac roeddwn i eisiau i Bowys gael cyfle i fod yn rhan o’r daith hon a sefyll yn erbyn trais o unrhyw fath. Gyda chefnogaeth Dafydd, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, a Clive o Ganolfan Gwaith Haearn Prydain, cychwynnodd y daith. Cawsom fis i drefnu hyn, ac mae’n wych cael bod y lle cyntaf yng Nghymru i groesawu’r Angel Cyllyll a chael y cyfle i gael y gofeb genedlaethol hon yn ein tref. Nid yw ymweliad yr Angel Cyllyll yn ymwneud â’r Drenewydd yn unig...mae’n ymwneud â Phowys a’r gymuned gyfan, adeiladu pontydd, sefyll ynghyd, amddiffyn y rhai sy’n agored i niwed ac ail-addysgu’r rhai sydd wedi gwneud camgymeriadau difrifol yn eu bywydau. Os yw cymunedau’n sefyll gyda’i gilydd, gallant gyflawni pethau anhygoel, a phe bai Powys yn medru dod yn sir sy’n sefyll yn erbyn trais...byddai’n le hapusach.

Y Cyngorydd Joy Jones

Bu’n fraint gennyf gefnogi a noddi ymweliad cyntaf yr Angel Cyllyll â Chymru wrth i ni groesawu’r cerflun i’r Drenewydd, Powys. Ardal Heddlu Dyfed-Powys yw’r lle mwyaf diogel yng Nghymru a Lloegr, ac mae gennym lefelau isel iawn o droseddau treisgar a materion sy’n ymwneud â chyllyll. Fodd bynnag, rhaid i ni beidio bod yn ddifater o ran tueddiadau presennol, ac fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, fy ngobaith yw y bydd ein cymunedau’n parhau’n ddiogel ac y byddwn yn cymryd ymagwedd ataliol tuag at leihau trosedd dros y tymor hir. Bydd yr Angel Cyllyll yn caniatáu i fy swyddfa a Heddlu Dyfed-Powys weithio gyda chymuned y Drenewydd a’r cyffiniau er mwyn tynnu sylw at negeseuon diogelwch cymunedol allweddol a lleihau ofn trosedd o fewn yr ardal.                                                                                    

 

Dafydd Llywelyn 

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed Powys             

Os oes gennych unrhyw wybodaeth, rhowch wybod i’r heddlu drwy alw 101, neu galwch Crimestoppers Cymru yn ddienw ar 0800 555 111 

Os ydych chi’n berson ifanc, cewch ragor o wybodaeth am droseddau cyllyll drwy alw heibio i fearless.org

 

#angelcyllyllydrenewydd                   #AngelCyllyll