10 Mai 2018

Lansio elusen Dyfed-Powys Diogel yn dilyn taith feicio elusennol #TourdeForce

 

Ar 4 Mai, cwblhaodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, a thîm #TourdeForce, daith feicio elusennol. Roedd y criw wedi teithio 500 milltir mewn 5 diwrnod ar gefn eu beiciau. Gall elusen Dyfed-Powys Diogel gyhoeddi yn awr ei bod bellach mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth i gymunedau lleol, gyda grantiau o hyd at £1000 ar gael ar gyfer elusennau a grwpiau cymunedol o fewn ardal Dyfed-Powys.

 

Ar ôl treulio 36 awr ar gefn beic yn ystod her #TourdeForce, daeth y daith, a welodd y tîm yn ymweld â phob gorsaf heddlu yn ardal y llu, i ben ddydd Gwener.

Gan adlewyrchu ar y profiad, dywedodd Dafydd Llywelyn: ”Hoffwn ddiolch i bawb a gefnogodd y digwyddiad hwn mewn unrhyw ffordd - mae gormod i’w henwi. Ond ni fyddwn wedi medru cyflawni hyn heb y swyddogion a fu’n beicio gyda mi gan fy ngwthio ymlaen, a’r cymorth meddygol amhrisiadwy gan yr elusen Cariad. Wrth edrych nôl, roedd yn brofiad arbennig, ac yn sicr, roedd hi’n werth rhoi o’m hamser fy hun i wneud hyn.

Nid yn unig yr oedd yn wych lansio Dyfed-Powys Diogel a chodi arian ar gyfer yr elusen, ond yr oedd hefyd yn gyfle arbennig i gwrdd â phreswylwyr lleol a sgwrsio â nhw yn ystod digwyddiadau ymgysylltu gyda’r hwyr. Gwnaeth imi sylweddoli mor amrywiol yw’n cymunedau, boed hynny mewn ardaloedd gwledig neu ardaloedd mwy trefol, ac mae hynny’n rhywbeth i’w ddathlu.

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r noddwyr hael canlynol a fu’n ddigon caredig i gefnogi’r daith – rhoddodd Brecon Carreg poteli o ddŵr i gadw’r beicwyr yn hydradol yn ystod y daith, a rhoddodd Enterprise Cycles yn Neyland, Sir Benfro, farrau a geliau egni a thiwbiau mewnol sbâr rhag ofn y byddai tyllau yn olwynion y beiciau.

 
Bellach, mae elusen Dyfed-Powys Diogel mewn sefyllfa i ddechrau gwneud gwahaniaeth gyda’i harian.  

Mae’n dda gan yr elusen gyhoeddi y gall dderbyn ceisiadau am gyllid yn awr.

Bydd yn para am 6 wythnos, gan gau ar 29 Mehefin 2018. Rhaid i geisiadau fod yn unol ag amcanion Dyfed-Powys Diogel, sef hyrwyddo cyngor diogelwch cymunedol ac atal trosedd, a lleihau ofn trosedd drwy ddarparu addysg a gwybodaeth ynghylch diogelwch cymunedol. Gall pob elusen a/neu grŵp o fewn ardal Dyfed-Powys wneud cais am uchafswm o £1000. Mae’n rhaid i brosiectau fod yn gysylltiedig â phobl ifainc 25 oed ac iau a rhaid eu bod nhw’n cefnogi un neu fwy o’r egwyddorion yn y Cynllun Heddlu a Throseddu.

 

Ceir canllawiau a chyfarwyddiadau ynghylch sut i wneud cais ar wefan Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu www.dyfedpowys-pcc.org.uk.

 

Rydyn ni’n annog elusennau a grwpiau cymunedol lleol i ddarllen y ffurflen ganllaw cyn gwneud cais; ni fydd ceisiadau nad ydynt yn cefnogi amcanion yr elusen ac sydd ddim yn unol â’r Cynllun Heddlu a Throseddu’n cael eu hystyried.

 

Er mwyn gweld uchafbwyntiau #TourdeForce, galwch heibio i’n cyfrif Twitter @DPOPCC.