03 Gor 2023

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn wedi ymuno âg ymgyrch genedlaethol i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a chadw pobl Dyfed-Powys yn ddiogel.

Yn rhedeg o fis Gorffennaf 3 i 9, nod Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yw annog cymunedau i sefyll yn erbyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, ac amlygu’r camau y gellir eu cymryd gan y sawl sy’n ei brofi. 

Wedi’i drefnu gan Resolve, sefydliad Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a diogelwch cymunedol mwyaf y DU, mae’r wythnos yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau ledled y DU, sy’n cynnwys Cynghorau, Lluoedd Heddlu, Cymdeithasau Tai, elusennau, a chlybiau chwaraeon.

Canfu gwaith ymchwil YouGov diweddar a gomisiynwyd gan Resolve, bod bron 1 mewn 5 o bobl wedi gorfod ystyried symud tŷ oherwydd yr effaith roedd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn ei gael arnynt; mae 1 mewn 10 wedi symud. Serch hynny, roedd dros hanner y sawl a ofynnwyd yn ddioddefwr neu’n dyst i Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, a heb ei adrodd.

Mae’r Comisiynydd Dafydd Llywelyn yn annog aelodau o’r cyhoedd i beidio dioddef yn ddistaw os ydynt yn profi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Gellir adrodd digwyddiadau i’r tîm ymddygiad gwrthgymdeithasol i’r Cyngor lleol neu i’r Heddlu, os yw pobl yn teimlo eu bod mewn risg neu berygl uniongyrchol.

Y llynedd, roedd ffocws Cynhadledd Flynyddol Dydd Gŵyl Dewi y Comisiynydd Dafydd Llywelyn ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Mae'r gynhadledd, a oedd yn cynnwys mewnbwn gan ddioddefwyr YGG, bellach ar gael i bobl ei gweld fel rhestr chwarae ar youtube.

Gan roi sylw, dywedodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn: “Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith aruthrol ar ei ddioddefwyr ac, mewn rhai achosion, ar y gymuned ehangach. Yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu newydd a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, rwyf wedi tynnu sylw at atal niwed a achosir gan droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol fel blaenoriaeth.

“Mae ymateb effeithiol i ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gofyn am arloesi, partneriaeth gref rhwng asiantaethau lleol, a meddylfryd sy’n rhoi dioddefwyr yn gyntaf.

“Roedd fy nghynhadledd Gŵyl Dewi flynyddol yn 2022 yn taflu goleuni ar yr her bwysig sy’n ein hwynebu a’r cyfleoedd sydd ar gael i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda mewnbwn ar ddull Dyfed-Powys o fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, a oedd yn cynnwys sut mae’r heddlu yn dal, yn cofnodi ac yn rheoli ymddygiad cymdeithasol; rôl y cydlynwyr a'r cyfryngwyr, a'r ymyriadau lefel isel a'r dulliau adferol.

“Roedd yn ddigwyddiad gwych gyda chydweithwyr o Heddluoedd ledled Cymru a Lloegr yn bresennol i ddysgu mwy am ddull Dyfed-Powys o fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Hoffwn achub ar y cyfle hwn ar ddechrau wythnos ymwybyddiaeth ymddygiad gwrthgymdeithasol unwaith eto, i annog aelodau’r cyhoedd i beidio â dioddef yn dawel os ydynt yn profi ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gellir rhoi gwybod am ddigwyddiadau i’r tîm ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn Cynghorau lleol, neu i’r Heddlu os yw pobl yn teimlo eu bod mewn perygl uniongyrchol”.

Ychwanegodd Rebecca Bryant OBE, Prif Weithredwr Resolve:

“Nid yw Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn lefel isel. Gall ddifetha bywydau dioddefwyr a chymunedau gydag effaith hirdymor, a gall arwain at droseddau mwy difrifol.

Mae’n bwysig bod herio Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn parhau i gael y flaenoriaeth angenrheidiol fel bod pobl ymhob man yn teimlo’n fwy diogel yn eu cartrefi a’u cymunedau.

“Rydym wrth ein boddau bod y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn yn cefnogi’r ymgyrch hollbwysig hon. “Mae’n hollbwysig ein bod yn datblygu partneriaethau ar draws cymunedau er mwyn mynd i’r afael â’r heriau sy’n gysylltiedig ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

Am ragor o wybodaeth am Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - ewch i www.resolveuk.org.uk

DIWEDD  

Nodiadau i olygyddion 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â;

Gruff Ifan

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk

 

  • Ynglŷn â’r arolwg  
    Gallwch ganfod adroddiad llynedd yma: https://www.resolveuk.org.uk/images/YouGov_Report.pdf

Bydd canlyniadau llawn o’n harolwg newydd, a gynhaliwyd ym mis Mai 2023, yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.

  • Ynglŷn ag Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2023
    Bydd Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn cael ei chynnal rhwng 3 a 9 Gorffennaf

 

Bydd wythnos o weithredu’n dod â phobl a sefydliadau ar draws y wlad at ei gilydd er mwyn gwneud safiad a gweithio gyda’i gilydd er mwyn gwneud cymunedau’n fwy diogel.

 

Wedi’i drefnu gan Resolve, mae Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn cael ei gefnogi gan y Swyddfa Gartref, Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, Cymdeithas Llywodraeth Leol, Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, a Chyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân.

  • Ynglŷn â RESOLVE
    Canolfan ragoriaeth sy’n canolbwyntio ar ddiogelwch cymunedol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yw Resolve. Rydym yn hyrwyddo bod posib mynd i’r afael â materion diogelwch cymunedol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithiol, ac mae gan bawb hawl i deimlo’n ddiogel. Dylid trin Ymddygiad Gwrthgymdeithasol fel blaenoriaeth, nid yw’n lefel isel, ac mae’n arwain at drosedd difrifol. 


Ein cenhadaeth yw proffesiynoli’r sector drwy gynorthwyo sefydliadau i fynd i’r afael yn effeithiol â materion diogelwch cymunedol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy hyfforddiant, cefnogaeth, canllawiau, a thrwy rannu'r arferion gorau.


Mae mynd i’r afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a diogelwch cymunedol yn fusnes i bob aelod, gan gynnwys darparwyr tai cymdeithasol sy’n ymdrin â mwy na 3 miliwn o gartrefi ledled y DU.  Mae aelodau eraill yn cynnwys Awdurdodau Lleol, sy’n 25% o’n haelodaeth, cyfreithwyr cyfreithiau tai, gwasanaethau cyfryngu a’r Heddlu.


Am ragor o wybodaeth ewch i www.resolveuk.org.uk