17 Ion 2022

Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh) yn chwilio am aelodau annibynnol newydd i ymuno â'i Gydbwyllgor Archwilio.

Mae'r Cydbwyllgor Archwilio yn rhoi cyngor a sicrwydd annibynnol ar lywodraethu cyffredinol SCHTh a Heddlu Dyfed-Powys.

Bydd y Pwyllgor yn adolygu ac yn craffu ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau rheoli risg, archwilio a rheoli mewnol, a llywodraethu corfforaethol y ddau sefydliad, yn ogystal ag adolygu rheolaeth ac adrodd ar faterion ariannol.

Mae'r Pwyllgor yn cynnwys pum aelod annibynnol ac mae'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a'r Prif Gwnstabl yn dymuno penodi un aelod ychwanegol.

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar ddealltwriaeth a phrofiad da o ddeddfwriaeth a chanllawiau'r sector cyhoeddus a bod yn wleidyddol niwtral.

Dywedodd Carys Morgans, Pennaeth Staff a Swyddog Monitro yn SCHTh “Mae’r Cydbwyllgor Archwilio Annibynnol yn elfen allweddol o drefniadau’r CHTh a’r Prif Gwnstabl ar gyfer llywodraethu corfforaethol ac mae hwn yn gyfle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes hwn ac a fyddai’n dymuno gwneud hynny, i gynorthwyo I graffu ar y ffordd y mae cyllid yr heddlu yn gweithredu.”

Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed, yn byw neu'n gweithio yn ardal Dyfed-Powys ac yn gallu mynychu cyfarfodydd yn ystod y diwrnod gwaith.

Mae aelodau'n cael lwfans am fynychu cyfarfodydd ac am eu hamser yn paratoi ar gyfer cyfarfodydd, gan gynnwys costau teithio i Bencadlys yr Heddlu. Fel arfer cynhelir cyfarfodydd bob chwarter.

Bydd ymgeiswyr yn destun gwiriad fetio heddlu. Nid yw swyddogion heddlu neu staff heddlu sy'n gwasanaethu yn gymwys ar gyfer y rôl hon.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Chwefror 2022.

I ddarganfod mwy am rôl y Pwyllgor a’r cymwyseddau sydd eu hangen, gallwch lawrlwytho pecyn cais o wefan SCHTh: www.dyfedpowys-pcc.org.uk/en/accountability-and-transparency/joint-audit-committee/ .

 

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Carys Morgans

Pennaeth Staff a Swyddog Monitro

carys.morgans@dyfed-powys.police.uk