05 Rhag 2019

Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar gyllid yr heddlu ar gyfer 2020/21.

Wrth lansio’r ymgynghoriad ar gyfer praesept heddlu 2020/21, dywedodd Dafydd Llywelyn:

"Wrth i ni aros am setliad grant heddlu'r Llywodraeth ar gyfer 2020/21, rwyf wedi gofyn i'r Prif Gwnstabl asesu ei ofynion cyllideb ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer y flwyddyn nesaf. Wrth iddo ystyried ystod o ffactorau cymhleth fydd yn llywio ei asesiad o'r hyn fydd ei angen i gadw ein cymunedau yn ddiogel Dyfed-Powys, hoffwn ofyn i chi am eich barn ar braesept yr heddlu.

 Praesept yr heddlu yw’r swm rydych yn ei dalu fel rhan o’ch treth gyngor ac fe’i ddefnyddir i dalu am wasanaethau plismona lleol. Ar hyn o bryd, mae eiddo cyfartalog band D yn talu £248.56 y flwyddyn.

Mae eich praesept yn rhan hanfodol o gyllid yr heddlu, a heb hyn, ni allem gynnal gwasanaeth heddlu sy’n ymateb i anghenion ein cymunedau. Mae’r incwm hwn yn ychwanegol i grant y Swyddfa Gartref a grantiau eraill.”

Cyn y gall y Comisiynydd osod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae’n bwysig ei fod yn cael eich barn.

Ychwanega Dafydd Llywelyn: “Rwy’n annog preswylwyr Dyfed-Powys i leisio eu barn am y mater hollbwysig hwn i sicrhau ein bod ni fel gwasanaeth heddlu’n medru parhau i ddiogelu ein cymunedau â’r safon gwasanaeth uchaf sydd ar gael.”

Gallwch gwblhau’r arolwg drwy glicio ar y ddolen ganlynol: https://www.surveymonkey.co.uk/r/DPPPrecept

Fel arall, mae copïau papur ar gael o swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar 01267 226440 / opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk.

Agorodd yr ymgynghoriad ar 5 Rhagfyr a daw i ben ar 12 Ionawr 2020.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn tybio y bydd cyllid grant canolog y flwyddyn nesaf yn parhau ar yr un lefel â'r flwyddyn ariannol hon.