24 Tach 2017

Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar gyllid yr heddlu ar gyfer 2018/19.

Ariennir plismona lleol drwy grant gan y Swyddfa Gartref, yn ogystal â chyfraniadau gan y cyhoedd drwy’r Dreth Gyngor, sef y praesept heddlu.

Wrth lansio’r ymgynghoriad ar gyfer praesept heddlu 2018/19, dywedodd Dafydd Llywelyn: Fel y nodir yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu, codwyd y lefel praesept ar gyfer 2017/18 o 6.9%. Roedd hyn gyfystyr â £213.87 y flwyddyn ar gyfer eiddo Band D, sef y rhataf o’r 4 ardal heddlu yng Nghymru.

“Yn fy Nghynllun, tybiais hefyd y byddai cynnydd o 5% y flwyddyn yn ystod y blynyddoedd dilynol. Mae hyn yn golygu y byddai eiddo Band D yn talu £224.56 yn 2018/19, sef cynnydd o £10.69 y flwyddyn, neu 21c yr wythnos.

“Mae penderfyniadau a wnaed mewn blynyddoedd diweddar wedi arwain at lai o arian ar gyfer cyflwyno gwasanaethau hollbwysig i’n cymunedau, a gyda bygythiadau parhaus y bydd toriadau gan y llywodraeth ganolog rwy’n credu’n gryf y dylai’r cyhoedd gael llais cryf yn y penderfyniad i wneud newidiadau i gyfraniad y cyhoedd drwy’r Dreth Gyngor, ac ar ôl cytuno arno, bod yr effaith yn cael ei esbonio’n glir.

“Rwy’n annog preswylwyr Dyfed-Powys i leisio eu barn am y mater hollbwysig hwn i sicrhau ein bod ni fel gwasanaeth heddlu’n medru parhau i ddiogelu ein cymunedau â’r safon gwasanaeth uchaf sydd ar gael.”

Mae’r wybodaeth isod yn rhoi manylion am yr effaith y byddai gwahanol newidiadau i braesept yr heddlu’n cael ar bwrs y cyhoedd a chyllideb gyffredinol yr heddlu.

 



 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Medrwch gwblhau’r arolwg drwy roi’r ddolen ganlynol i mewn i’ch porwr gwe: https://www.surveymonkey.co.uk/r/SZ9956P

Fel arall, gellir gofyn am gopi papur o swyddfa Mr Llywelyn ar 01267 226440 / opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk.

Agorodd yr arolwg ar 24 Tachwedd ac mae’n cau ddydd Gwener 15 Rhagfyr 2017.