23 Maw 2020

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn wedi galw am fesuriadau llym i osod cyfyngiadau teithio o fewn ardaloedd gwledig Cymru er mwyn atal hunan-ynyswyr a thwristiaid i orlifo’r ardaloedd hynny.

Disgrifiodd Mr Llywelyn epidemig Covid-19 fel “argyfwng cenedlaethol, nid gwyliau cenedlaethol”.

Mae wedi galw am gyflwyno cyfyngiadau teithio a phreswylio, a dylid atal pobl sy'n teithio i gartrrefi gwyliau rhag gwneud hynny, tra dylai'r rhai sydd ar hyn o bryd mewn cartrefi gwyliau ddychwelyd adref.

Mae'n dilyn rhybuddion gan weithwyr iechyd a diogelwch lleol ledled Cymru bod gwasanaethau mewn perygl o gael eu gorlwytho, gan fygwth bywydau trigolion lleol a'r rhai sy'n teithio i'r ardal.

Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth achub Eryri, meddygon teulu lleol, ysbytai ac awdurdodau lleol.

“Mae’r canllawiau’n glir - ni ddylai unrhyw un fod yn ymgymryd â theithio nad yw’n hanfodol. Mae hynny'n cynnwys teithio i gefn gwlad Cymru,” meddai Mr Llywelyn.

“Rhaid i ni nawr gyflwyno cyfres o ‘lockdowns’ er mwyn atal pobl rhag teithio i gartrefi gwyliau, tra hefyd annog y rheiny sydd ar hyn o bryd mewn cartrefi gwyliau ddychwelyd adref.

“Nid oes unrhyw gymuned yn ddiogel rhag y pandemig hwn. Ni all pobl redeg rhagddo, ac yn sicr ni all pobl guddio rhagddo mewn mannau gwyliau.

“Y cyfan y byddwch chi'n ei wneud trwy fynd i'r ardaloedd hyn yw peryglu'ch bywyd chi a bywydau eraill trwy orlwytho gwasanaethau lleol.

“Nid gwyliau cenedlaethol mo hwn, mae’n argyfwng cenedlaethol. Os na fydd pobl yn dechrau ymddwyn yn gyfrifol, bydd cannoedd, miloedd o bosib, yn marw yn ddiangen.”

 

DIWEDD