19 Maw 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn wedi darparu cefnogaeth ariannol i dîm GO SAFE Heddlu Dyfed-Powys i brynu deg dyfais mesur cyflymder a fydd yn cael eu rhoi i dimau Gwarchod Cyflymder Cymunedol (GCC) ledled yr heddlu.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi gweld cynnydd ym mhryderon cymunedol o oryrru ar draws ardal yr Heddlu. O ganlyniad, bydd y cyllid a ddarperir gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd hefyd yn galluogi Go Safe i annog mwy o ymgysylltiad gwirfoddolwyr mewn cymunedau wrth iddynt geisio datblygu mwy o dimau GCC.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd; “Rydyn ni’n clywed mwy o bryderon ynghylch goryrru yn ein cymunedau y dyddiau hyn, ac o ganlyniad rydym yn annog mwy o wirfoddolwyr a phartneriaid i weithio gyda’r Heddlu i wella diogelwch ar y ffyrdd.

“Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyflwyno terfynau cyflymder 20mya i bob cymuned breswyl yng Nghymru erbyn 2023, a fydd yn anochel yn achosi cynnydd yn y galw am yr Heddlu a Go Safe. Gobeithio y bydd y cyllid yr wyf am ei ddarparu yn arfogi timau Gwylio Cyflymder Cymunedol i gefnogi'r heddlu i ateb gofynion. Bydd hefyd yn cryfhau cyfleoedd i'r gymuned gefnogi ein Llu i sicrhau amgylcheddau mwy diogel yn ein cymunedau.”

Dywedodd y Rhingyll Ian Price, o Uned Lleihau Niwed Ffordd Heddlu Go Safe Dyfed-Powys; “Bydd GO SAFE yn Dyfed Powys yn parhau i ddarparu cefnogaeth arbenigol wrth hyfforddi a rheoli ein gwirfoddolwyr gwylio cyflymder cymunedol ar draws yr heddlu. Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth ariannol gan Gomisiynydd yr Heddlu a fydd yn helpu i gyflawni plismona yn ein cymunedau i leihau’r risg o niwed ar ein ffyrdd ac annog eraill i helpu i ddarparu cymunedau mwy diogel ar draws Dyfed Powys i leihau cyflymder a’r niwed dilynol. ”

Dywedodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth, GoSafe; “Mae gwirfoddolwyr Gwylio Cyflymder Cymunedol yn chwarae rhan amhrisiadwy yn ein gwaith o gadw ffyrdd a chymunedau yn ddiogel. Bydd ein staff yn GoSafe, sy'n arbenigwyr ar ddefnyddio'r offer hwn, yn gallu hyfforddi gwirfoddolwyr i ddefnyddio'r offer a ddarperir gan y Comisiynydd i gyfrannu at wneud ein cymunedau'n fwy diogel i bawb. Bydd unrhyw fodurwyr sy'n cael eu gweld yn gyrru dros y terfyn cyflymder yn derbyn llythyr yn eu hysbysu o effaith eu hymddygiad anystyriol ar y bobl sy'n byw yn Dyfed Powys. "

Dywedodd y Prif Arolygydd Mark McSweeney o Hwb Diogelwch Cymunedol Dyfed-Powys “Mae mentrau Gwylio Cyflymder Cymunedol yn ataliad gweladwy sydd wedi profi ei fod yn lleihau goryrru. Rhaid canmol gwirfoddolwyr o gymunedau lleol sydd am gefnogi'r heddlu gyda mentrau datrys problemau lleol ac am weithio mewn partneriaeth â'r heddlu i fynd i'r afael â phroblemau y maent hwy eu hunain wedi'u codi.

“Mae'r math hwn o weithio mewn partneriaeth yn adeiladu ymddiriedaeth, hyder a chyfreithlondeb mewn cymunedau, gan eu gwneud yn fwy gwydn a hunangynhaliol wrth ddatrys problemau ar gyfer y dyfodol.”