15 Ion 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn wedi cadarnhau ei fod am fuddsoddi mewn rhaglen integredig ar gyfer rheoli troseddwyr mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol.

Mae Rheoli Troseddwyr Integredig (IOM) yn cynnwys cyd-reoli pobl yr ystyrir eu bod yn debygol iawn o aildroseddu. Adnewyddwyd Strategaeth Genedlaethol Rheoli Troseddwyr Integredig y Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dilyn argymhellion a wnaed mewn adroddiad ar y cyd gan Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi a ganfu fod IOM wedi ‘colli ei ffordd’.

Bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn nawr yn darparu cyllid mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol i gefnogi'r adnewyddiad hwn, a bydd yn canolbwyntio ar sicrhau bod cefnogaeth uniongyrchol ar gael i droseddwyr i helpu i leihau aildroseddu, ac felly lleihau erledigaeth.

Mae'r strategaeth yn ailffocysu IOM ar droseddau cymdogaeth: lladrad, byrgleriaeth, lladrad a dwyn cerbydau. Ar hyn o bryd, troseddau cymdogaeth sydd â'r lefelau uchaf o aildroseddu o unrhyw fathau o droseddau, ac maent yn gyfran uchel o'r aildroseddu yn gyffredinol.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn, “Mae lleihau troseddau cymdogaeth yn flaenoriaeth. Rydym yn gwybod bod gan lawer o'r troseddwyr hyn anghenion troseddegol lluosog sy'n atgyfnerthu ei gilydd, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, anghenion tai a chyflogaeth, a materion iechyd meddwl. Nod Rheoli Troseddwyr Integredig yw cefnogi troseddwyr i ymatal rhag troseddu trwy helpu i ddiwallu'r anghenion sylfaenol hyn. Rwy'n gobeithio y bydd y rhaglen yr ydym yn buddsoddi ynddi yma yn Dyfed-Powys mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn cael effaith sylweddol ar gyfraddau aildroseddu, ac o ganlyniad yn sicrhau ein bod yn amddiffyn y cyhoedd ac yn creu cymunedau mwy diogel o fewn Dyfed-Powys.

Mae'r strategaeth ar ei newydd wedd yn ceisio adeiladu ar gyfleoedd a gyflwynir gan newidiadau yn y system cyfiawnder troseddol dros y blynyddoedd i ddod.

DIWEDD

Rhagor o fanylion

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.pnn.police.uk