25 Meh 2020

Ar 25 Mehefin 2020, cadarnhaodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn fod ei swyddfa wedi sicrhau dros £140,000 o arian ychwanegol gan y llywodraeth ar gyfer sefydliadau sy'n darparu cefnogaeth i ddioddefwyr trais domestig a rhywiol yn Dyfed-Powys i'w cynorthwyo gyda chostau ychwanegol o ganlyniad I COVID 19.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Llywodraeth becyn cymorth gwerth £76 miliwn i sicrhau bod y rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn ystod y pandemig. Roedd hyn yn cynnwys cyllid i helpu goroeswyr cam-drin domestig a'u plant trwy ddarparu rhagor o ofodau diogel, llety a mynediad at wasanaethau cymorth yn ystod coronafeirws.

Ar ôl gwahodd sefydliadau yn ddiweddar i weithio gyda'i swyddfa i gyflwyno ceisiadau am y cyllid, roedd Mr Llywelyn yn falch o gyhoeddi bod cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer pob un o'r deg sefydliad a gyflwynodd cais.

Dywedodd Mr Llywelyn, “Rwy’n falch iawn o ddweud ein bod wedi derbyn ceisiadau gan ddeg sefydliad i gyd ac, yn dilyn ein cynigion i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ddyrannu ychydig dros £140,000 o gyllid ychwanegol i’r sefydliadau hyn, cawsom gadarnhad yr wythnos hon fod y cyllid wedi ei gymeradwyo.

“Mae hyn yn newyddion gwych i’r holl sefydliadau, gan y bydd y cyllid ychwanegol yn cael effaith sylweddol ar leddfu peth o’r pwysau sydd wedi bod arnynt yn ystod yr amseroedd anodd hyn.”

“Ni ddylai’r troseddau hyn fod yn digwydd, ac mae’r llywodraeth yn deall yr heriau sy’n gwynebu’r gwasanaethau wrth edrych i gefnogi’r rheini lle nad yw eu cartref yn ddiogel iddynt yn ystod y broses gloi.

“Mae rhai o’n helusennau rheng flaen wedi brwydro i barhau â’u gwaith hanfodol yn ystod y pandemig, ar yr union adeg pan mae’r risg i’r rhai sy’n gaeth mewn sefyllfaoedd ymosodol wedi cynyddu.

“Mae’n hanfodol bod dioddefwyr yn cael cymorth i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt, gan gynnwys cefnogaeth ychwanegol i oroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan gefnogi ffyrdd newydd o weithio i gyrraedd y rhai sydd wedi’u hynysu. Dylai unrhyw un sydd mewn perygl gysylltu â'r heddlu bob amser.”

Un o'r deg sefydliad y dyfarnwyd cyllid iddynt yw New Pathways - cwmni elusennol cofrestredig sy'n darparu ystod o wasanaethau cwnsela ac eiriolaeth arbenigol i fenywod, dynion, plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan drais rhywiol neu gam-drin rhywiol.

Dywedodd Mr Mike Wilkinson, Dirprwy Gyfarwyddwr New Pathways: “Mae Mr Llywelyn bob amser wedi bod yn glir bod cefnogi dioddefwyr trais rhywiol yn flaenoriaeth iddo, o ran codi ymwybyddiaeth ac ariannu gwasanaethau arbenigol. Fel rhan o’r ymrwymiad hwnnw, rydym yn falch iawn o dderbyn yr arian ychwanegol hwn, a fydd yn gwella’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig i bobl yn Dyfed-Powys sydd wedi cael eu heffeithio gan drais rhywiol a cham-drin rhywiol. ”

Ymhlith y sefydliadau sydd wedi derbyn yr arian ychwanegol mae;

  • Prifysgol Aberystwyth (sy’n rhedeg gwasanaeth Dewis Dewis)
  • Calan DVS
  • Gwasanaeth Cam-drin Domestig Sir Gaerfyrddin
  • Hafan Cymru
  • Canolfan Argyfwng Teuluol Sir Drefaldwyn
  • New Pathways
  • People’s First, Sir Benfro
  • Pobl Care and Support
  • Threshold DAS
  • Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru

 

Ychwanegodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn: “Edrychaf ymlaen yn awr at weld yr hyn y mae’r cyllid ychwanegol hwn yn ei ddarparu i’n cymunedau, ac yr un mor bwysig, sut y bydd yn helpu i ddarparu ffyrdd newydd a chynyddol o gefnogi dioddefwyr. Byddaf yn parhau i lobïo’r llywodraeth am gyllid i sicrhau fod hwn yn ddarpariaeth hir dymor, a'n bod yn parhau i gefnogi'r gwaith hanfodol hwn i’r dyfodol”.

 

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan.OPCC@dyfed-powys.pnn.police.uk