25 Ion 2019

Cyhoeddodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn heddiw (ddydd Gwener 25 Ionawr 2019) y bydd yn cynyddu praesept yr heddlu £2 y mis, gan barhau i fod â’r praesept Treth Gyngor isaf yng Nghymru.

Derbyniwyd cynnig y Comisiynydd heddiw mewn cyfarfod o Banel yr Heddlu a Throseddu, gyda 9 yn pleidleisio o blaid y cynnydd, ac 1 aelod yn erbyn.

Yn ystod y cyfarfod, roedd aelodau'r Panel wedi herio'r Comisiynydd ynghylch yr effaith y byddai'r praesept o dan gynnig yn ei chael ar drethdalwyr a'r effaith y byddai cynnydd llai yn ei chael ar niferoedd yr heddlu.

Fodd bynnag, dywedodd y Cynghorydd Keith Evans (Ceredigion) "Rydym yn wynebu dewis anodd, naill ai i gynyddu'r praesept neu gwtogi ar y gwasanaethau”

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn:

"Gallaf gadarnhau bod fy nghynnig i gynyddu praesept yr heddlu £2 y mis wedi'i gymeradwyo heddiw gan y Panel Heddlu a Throseddu. Mae'r cytundeb heddiw yn golygu y bydd eiddo Band D yn talu £248.56 ar gyfer plismona yn 2019/20, sy’n gynnydd o £24 ar gyfer y flwyddyn.

"Wrth wneud y penderfyniad anodd hwn, rwyf wedi ystyried nifer o wahanol ffactorau gan gynnwys yr adnoddau y bydd eu hangen ar y Prif Gwnstabl yn y dyfodol, lefel y cronfeydd wrth gefn, a chynlluniau’r dyfodol ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith. Mae'r cynnydd hwn yn unol â setliad ariannol Llywodraeth Ganolog ar gyfer 2019/20, a oedd yn rhoi hyblygrwydd i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu godi'r praesept £24 y flwyddyn fesul eiddo Band D. Mae'r rhan fwyaf o Gomisiynwyr ledled Cymru a Lloegr yn ceisio gwneud hyn.

"Fodd bynnag, rwy'n teimlo'n rhwystredig tu hwnt gyda’r Llywodraeth Ganolog am barhau i roi baich costau'r heddlu a gwasanaethau cyhoeddus ar drethdalwyr lleol, mewn cyfnod lle y byddant yn cael eu taro o bob cyfeiriad. O ystyried maint y pwysau ariannol a wynebir, rwyf o’r farn fod Dyfed-Powys a'r gwasanaeth heddlu yn gyffredinol yn wynebu sefyllfa o argyfwng a chyfnod ansicr iawn. Mae'r cynnydd hwn yn y praesept yn hanfodol er mwyn cynnal gwasanaethau. Fel Comisiynydd rwyf wedi lobïo Aelodau Seneddol lleol mewn perthynas â’r effaith sylweddol a’r risgiau sy'n bygwth ein cymunedau lleol.

“Rwyf hefyd wedi ymgynghori â'r cyhoedd er mwyn cael eu barn ar y praesept, ac roeddwn wrth fy modd i weld cynnydd yn niferoedd trigolion Dyfed-Powys a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad eleni.   Byddai dwy ran o dair, 66%, o'r rhai a ymatebodd i'm harolwg yn talu £2 ychwanegol y mis, fesul eiddo Band D, ar gyfer gwasanaethau plismona. Rwyf wedi ystyried yr ymatebion hyn yn ofalus ac maent wedi helpu i lywio fy mhenderfyniad.

"Dyfed-Powys sydd â'r praesept treth gyngor isaf yng Nghymru o hyd, a ni yw’r pumed isaf o safbwynt cynnydd ym mhraesept treth gyngor ledled Cymru a Lloegr ers 2012/13. Bydd cynyddu'r lefel hon o gyllid yn galluogi'r heddlu i barhau i ganolbwyntio ar wireddu’r Cynllun Heddlu a Throseddu a pharhau i ddiogelu cymunedau Dyfed-Powys ".

 

Wrth annerch y Panel Heddlu a Throseddu, cyfeiriodd y Comisiynydd at gasgliadau damniol adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Medi, nad yw'r Swyddfa Gartref ‘yn gwybod a yw system yr heddlu yn ariannol gynaliadwy’. Aeth ymlaen i ddatgan ei rwystredigaeth bersonol tuag at y Swyddfa Gartref sydd, yn ei farn ef, yn esgeuluso'u cyfrifoldebau i ariannu gwasanaethau plismona lleol ar lefel briodol a chynaliadwy.

O dan wyliadwriaeth y Comisiynydd, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi parhau i wneud cynnydd gan ennill gradd ' Da ' gyffredinol gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi a Gwasanaethau Tân ac Achub (HMICFRS) ar ddechrau 2018. Cynhaliwyd arolygiad diweddaraf HMICFRS ar ddiwedd 2018 a bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi gan HMIC yn ystod gwanwyn 2019.