09 Awst 2019

07 Aug 2019

Rydyn ni’n ymwybodol o adroddiadau camarweiniol am ein lefelau staffio, sy’n cymharu niferoedd dros gyfnod o ddeng mlynedd (2009 - 2019)

Mae natur ein cymunedau, troseddau a phlismona wedi newid cymaint dros deg mlynyddoedd, fel nad yw’n bosibl gwneud cymhariaeth sy’n adlewyrchu’r darlun heddiw yn gywir.

Dywedodd Prif Gwnstabl Mark Collins:

“Nid yw cymharu data sy’n cynrychioli niferoedd swyddogion ar draws unrhyw ran o Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer y cyfnod deng mlynedd y cyfeirir ato (2009 - 2019) yn adlewyrchu’r newidiadau sylweddol a wnaed o fewn yr heddlu yn ystod yr un cyfnod er mwyn cyflwyno gwasanaeth sy’n addas ar gyfer y byd rydyn ni nawr yn gweithredu ynddo.

“Y ffactor dylanwadol mwyaf yn y gwahaniaeth mewn niferoedd rhwng 2009 a 2019 yw newid strwythurol yn yr heddlu, a dynnodd swyddogion plismona’r ffyrdd o’r niferoedd ar bapur ym mhob rhanbarth a dod â nhw at ei gilydd i greu adran weithrediadol arall - gan adlewyrchu eu gallu arbenigol. Ni adawodd y swyddogion hyn yr ardal o fewn pa un yr oeddent yn gweithio ynddi, ond nid oeddent yn ymddangos mewn data penodol i sir mwyach.

“Mae cymharu data dros gyfnod o ddeng mlynedd hefyd yn awgrymu bod plismona’n gweithredu mewn byd statig. Nid yw hynny’n wir. Un o’r newidiadau mwyaf sylweddol dros y cyfnod y cyfeirir ato yn y data yw ffrwydrad cymunedau ar-lein. Rhai er da, ond mae nifer yn cael eu defnyddio i niweidio’r bobl hynny sydd fwyaf agored i niwed a chymryd mantais ohonynt.

“Nid ar ein strydoedd yn unig mae troseddau’n cael eu cyflawni bellach, ac mae ein strwythur plismona wedi newid er mwyn adlewyrchu hyn. Mae troseddau’n digwydd tu ôl i ddrysau caeedig rhwng unigolion sy’n adnabod ei gilydd, ac mae’n digwydd ar-lein rhwng pobl sydd erioed wedi cwrdd wyneb yn wyneb. Mae angen i ymateb yr heddlu fod yn addas ar gyfer yr holl faterion hyn, ac mae barnu niferoedd ar bapur yn or-syml yn gwneud yn fach o’r disgwyliadau sydd gan ein cymunedau o’u gwasanaeth heddlu, a’r gallu arbenigol iawn sydd gan swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer amddiffyn y cymunedau maent yn eu gwasanaethu.”

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn:

“Ers ymgymryd â’m rôl fel yr unigolyn a etholwyd i gynrychioli’r holl gymunedau ar draws y pedair sir a wasanaethir gan yr heddlu, rydw i wedi cynyddu nifer cyffredinol yr adnoddau sydd ar gael o 4%.

“Rydw i wedi rhoi arian i dimoedd penodol er mwyn cefnogi swyddogion rheng flaen ac wedi buddsoddi mewn adnoddau i gefnogi’r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.

“Rydw i wedi comisiynu gwasanaethau sy’n benodol ar gyfer eu hanghenion - fel dioddefwyr cam-drin domestig, neu fel pobl ifainc sy’n dewis gadael eu cartrefi am resymau nad ydynt yn hysbys i’r awdurdodau. Byddaf yn parhau i wneud hyn. Ni fyddaf yn cael fy nal i gyfrif gan ffigurau ar bapur yn unig, ond yn ôl y gwahaniaeth rwy’n medru gwneud i ansawdd bywyd unigolion. Byddaf hefyd yn defnyddio’r cyfle sydd gennyf i ymgyrchu dros wasanaethau priodol ar gyfer anghenion penodol iawn ardal maint Heddlu Dyfed-Powys, a byddaf yn gweithio gyda’r heddlu i addasu yn unol â’r anghenion hynny.

“Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys yw’r siroedd mwyaf diogel yn genedlaethol o hyd, ac rwy’n falch o yrru gwasanaeth sy’n barod i fod yn hyblyg ac ymatebol, ac sy’n gallu gwneud hynny, er waethaf yr heriau ariannol a wynebir ddydd ar ôl dydd.”

Os ydych am ddod i weithio gyda ni, gan helpu i ddiogelu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, cliciwch yma>>> https://www.dyfed-powys.police.uk/en/join-us/
Os ydych am wybod mwy am y gwasanaethau a gomisiynir gan Comisiynydd Heddlu a Throseddu Mr Dafydd Llywelyn ac ar gael o fewn ein cymunedau, cliciwch yma >> http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/en/your-neighbourhood/services-available-to-you/