01 Rhag 2023

Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys wedi ennill gwobr Aur genedlaethol fawreddog am ansawdd ei Chynllun Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa.

Mae’r Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa yn gynllun gwirfoddolwyr sy’n cael ei redeg gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Wedi ei sefydlu yn dilyn terfysgoedd yn yr 80au a oedd yn ymwneud â diffyg ymddiriedaeth y cyhoedd mewn plismona, mae ymwelwyr annibynnol â dalfeydd (neu Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa) yn wirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser i ymweld yn ddirybudd â dalfeydd yr heddlu ledled y DU, gan sicrhau hawliau a lles carcharorion ledled y wlad.

Yn Nyfed-Powys, ar hyn o bryd mae deunaw o wirfoddolwyr sy’n gweithredu fel Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa, ac maent yn ymweld yn ddirybudd â dalfeydd heddlu yng Ngheredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Phowys.

Maent yn adrodd ar eu canfyddiadau i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, sydd yn ei dro yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif.

Cyflwynwyd Gwobrau Sicrwydd Ansawdd y Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa (ICVA) mewn seremoni yn yr Hen Lyfrgell, Birmingham ar 29 Tachwedd 2023.

ICVA yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n cefnogi, arwain a chynrychioli cynlluniau ymweld â dalfeydd sy’n cael eu rhedeg yn lleol. Mae cynlluniau'n rheoli timau o wirfoddolwyr annibynnol sy'n ymweld â'r rhai sy'n cael eu cadw yn nalfa'r heddlu.

Roedd pedair lefel graddedig, ac roedd Cynllun Dyfed-Powys yn falch iawn o fod wedi derbyn y safon Aur; sy'n golygu bod eu Cynllun yn darparu safon ragorol o ymweliadau â dalfeydd a rheolaeth gwirfoddolwyr.

Sefydlwyd y Cynllun yn Nyfed-Powys yn 2001, ac ers ei gyflwyno, mae miloedd o ymweliadau wedi’u gwneud â dalfeydd ledled ardal yr heddlu.

Wrth groesawu’r wobr, dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys: “Rwyf wrth fy modd i gyhoeddi bod ein cynllun gwirfoddolwyr Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa yn Nyfed-Powys wedi’i anrhydeddu â Gwobr Aur genedlaethol fawreddog. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu ymrwymiad ac ymroddiad ein gwirfoddolwyr a'r safonau uchel o ymweliadau â dalfeydd a rheolaeth gwirfoddolwyr yn ein rhanbarth.

“Mae’n destament i ymdrechion cydweithredol rhwng ein cymunedau, Heddlu Dyfed-Powys a fy Swyddfa i, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i ragoriaeth wrth sicrhau lles a hawliau unigolion yn y Ddalfa.

“Hoffwn longyfarch a diolch i’n holl wirfoddolwyr am eu gwaith caled – rydym yn falch o’r cyflawniad hwn a byddwn yn parhau â’n hymdrechion i gynnal y safon aur hon yn y gwasanaeth a ddarparwn i’n cymuned”.

Ar flog, a gyhoeddwyd yn dilyn y seremoni wobrwyo i longyfarch gwirfoddolwyr, dywedodd Prif Weithredwr ICVA, Katie Kempen; “Rwyf mor ddiolchgar am eich holl waith hynod galed ar y Fframwaith Sicrhau Ansawdd, mewn cyfnod sydd wedi bod yn dipyn o her i lawer.

“Ar agoriad y ffenestr asesu, roedd llawer o’ch cynlluniau yn dal i fod mewn cyfnod o adferiad Covid ac wrthi’n cael cynlluniau yn ôl i gydnerthedd, gan recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr newydd ledled y wlad.

“Wrth i ni symud drwy’r broses, mae llawer ohonoch wedi dod i’ch swydd ac yn ogystal ag ymgyfarwyddo â’ch rôl newydd wedi ymgymryd â’r Fframwaith Sicrwydd Ansawdd hefyd. Rwyf mor falch o bob cynllun a'u gwobr.

“Nid yw wedi digwydd heb ymrwymiad i’r cynllun, i’r gwirfoddolwyr anhygoel ac yn y pen draw i driniaeth deg ac effeithiol y rhai sydd wedi’u hamddifadu o’u rhyddid gan y wladwriaeth. Diolch yn fawr i chi gyd.”

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Llun (Chwith i Dde): Sherry Ralph Prif Weithredwr ICVA , Tomos Walters, Quality of Service Caseworker SCHTh, Dame Anne Owers Cadeirydd ICVA.

Llun (Chwith i Dde): Sherry Ralph Prif Weithredwr ICVA , Tomos Walters, Quality of Service Caseworker SCHTh, Dame Anne Owers Cadeirydd ICVA.