28 Maw 2019

Mae pedwar camera newydd yn cael eu gosod yn Aberteifi fel rhan o adduned allweddol Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, i ailfuddosddi mewn system gyhoeddus o Deledu Cylch Cyfyng.

Yr wythnos hon cychwynnodd y gwaith ar y rhaglen osod yn y dref a fydd yn gweld camerâu’n cael eu gosod yn y Stryd Fawr, Pont y Cleifion, Pendre a Stryd Morgan.

Penderfynwyd ar leoliadau’r camerâu yn dilyn adolygu dadansoddiad o batrymau troseddu ac mewn ymgynghoriad gydag asiantaethau partner eraill.

Mae’r gwaith yn cael ei gyflawni gan y contractwyr Baydale Control Systems Ltd ac mae’r camerâu technoleg uwch yn cael eu cyflenwi gan Hikvision UK & Ireland.

Meddai’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn: “Mae gwaith yn prysuro yn ei flaen ar y prosiect TCC ac rydw i wrth fy modd fod Aberteifi’n mynd i elwa o bedwar camera TCC technoleg uwch newydd. Rydw i’n edrych ymlaen at ymweld ag Aberteifi ar brynhawn dydd Gwener (29ain Mawrth) i siarad gyda phreswylwyr a pherchnogion busnes ynghylch y camerâu newydd.”

Meddai Comander Ceredigion, yr Uwcharolygydd Robyn Mason: “Mae hwn yn gam cadarnhaol i Aberteifi. Bydd cael y camerâu yn eu lle cyn i ni weld cynnydd o ran yr ymwelwyr i’r ardal yn ystod cyfnod y gwyliau yn ein helpu i gadw pawb mor ddiogel â phosibl ac yn ein cynorthwyo i gynnal ymchwiliadau o ansawdd pan fod angen.”

Mae’r Prosiect TCC yn dod â dros 120 o’r camerâu diweddaraf i 17 tref ar draws ardal yr heddlu, sef Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys.

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect TCC yma. (https://bit.ly/2ntpVlU)