14 Maw 2022

Ar 14 Mawrth 2022, ymwelodd Fan Gwasanaeth Atal Gorddos o Glasgow â Phencadlys Heddlu Dyfed-Powys i gwrdd â’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn fel rhan o’i daith o amgylch y wlad.

Cafodd y fan wasanaeth ei sefydlu yn Glasgow yn 2020, fel ymateb i’r broblem gynyddol o orddos a chyfraddau HIV ymhlith pobol sy’n chwistrellu cyffuriau, yn y ddinas. Yn ystod y 12 mis y bu'n gweithredu, hwylusodd y fan dros 1,000 o episodau chwistrellu, gwrthdroi gorddosau lluosog a arweiniodd at arbed llawer o fywydau o ganlyniad.

Mewn partneriaeth â’r Transform Drug Policy Foundation, Anyone’s Child, a Barod, cyfarfu’r tîm â’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn i ddangos y cyfleuster, a thrafod sut mae ymyriadadu i leihau niwed o’r fath yn gweithredu.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn. “Roeddwn yn ddiolchgar am y cyfle heddiw i gwrdd â thîm Fan Gorddos Glasgow ym Mhencadlys yr Heddlu, ynghyd â sefydliadau eraill, i ddysgu mwy am eu gwaith.

“Roedd yr ymweliad yma yn y Pencadlys heddiw yn gyfle i ni edrych ar un enghraifft o ymyrraeth sydd yn llleihau niwed unigryw ac i siarad ag arbenigwyr ynghylch gwasanaethau atal gorddos.”

Mae Heddlu Dyfed-Powys eisoes ar hyn o bryd yn treialu Swyddogion yn cario Chwistrellu Trwyn Nyxoid mewn chwe ardal o fewn Dyfed-Powys, gyda'r nod o leihau marwolaethau o orddos cyffuriau. Mae'r cynllun peilot yn rhedeg am chwe mis ac mae'n golygu bod swyddogion yn gallu ymateb yn syth pan fyddant allan ar batrôl.

Ychwanegodd CHTh Llywelyn: “Mae’n bwysig ein bod yn ceisio datblygu ataliaeth ac ymyriadau sydd wedi’u targedu i fynd i’r afael â marwolaethau gorddos yma yn Nyfed-Powys, ac mae angen i ni archwilio amrywiaeth o gyfleoedd trwy barhau i drafod gyda sefydliadau a phartneriaid.”

DIWEDD

Mwy o wybodaeth:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk