19 Tach 2017

Gall trosedd gael amryw o effeithiau ar ddioddefydd, a gall adfer fod yn gymhleth. Ond mae astudiaethau wedi dangos bod cwrdd â’r person sydd wedi’i niweidio’n medru bod yn gam mawr o ran symud ymlaen a dod dros y drosedd. Mae nifer o ddioddefwyr wedi dewis gwneud hynny. Mae’n cael ei alw’n gyfiawnder adferol ac mae’n dod â dioddefydd trosedd neu ddigwyddiad sydd ddim yn drosedd i gysylltiad â’r troseddwr mewn modd diogel.

Mae cyfiawnder adferol yn galluogi’r dioddefydd i esbonio’r effaith y mae trosedd wedi cael arnynt, gofyn cwestiynau a cheisio ymddiheuriad. Mae’n annog y troseddwr i gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd a gwneud iawn, a gall y profiad fod yn heriol iawn ar gyfer troseddwyr oherwydd maen nhw’n gorfod wynebu effaith bersonol eu trosedd.

Dioddefwyr yw ein blaenoriaeth, ac mae cyfiawnder adferol yn ddatrysiad effeithiol i drosedd, neu ddigwyddiad sydd ddim yn drosedd, sy’n canolbwyntio ar y dioddefydd. Mae’n dal troseddwyr, yn bobl ifainc ac yn oedolion, yn atebol yn uniongyrchol i’w dioddefwyr, a gall ddod â nhw at ei gilydd mewn cyfarfod sydd wedi’i hwyluso. Gall cyfiawnder adferol fod yn ddatrysiad amgen i’r system cyfiawnder troseddol ffurfiol, neu ychwanegu ati.

Mae’n gyfle i gyflwyno cyfiawnder cyflym, syml ac effeithiol gyda chefnogaeth dioddefwyr ac achwynyddion, ac mae’n cynnig cyfle i droseddwyr ddysgu am wir effaith eu hymddygiad. Mae pawb ohonom yn gwybod bod gan y gyfran fach o bobl sy’n gysylltiedig â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol effaith sylweddol ar ansawdd bywyd yn ein cymunedau, ac yn aml y niwed parhaol, ac mae pawb ohonom yn unedig yn ein cred nad yw hyn yn dderbyniol a rhaid mynd i’r afael â’r mater. Mae ymagwedd adferol tuag at droseddu lefel is yn cynnig gwir gyfle i atgyweirio’r niwed, gyda dull sy’n canolbwyntio ar y dioddefydd sy’n darparu canlyniad boddhaol sydd yn aml yn atal digwyddiad arall o’r fath. Mae hyn yn gwneud gwir wahaniaeth i ddioddefwyr a’n cymunedau yn gyffredinol.

Bydd hyn ond yn cael ei ystyried ar gyfer digwyddiadau neu droseddau lefel is, ac nid yw’n ddewis hawdd ar gyfer troseddwyr oherwydd mae’n rhaid iddynt dderbyn cyfrifoldeb am y drosedd, ac yn bwysicaf oll, dangos ymrwymiad tuag at unioni’r cam a wnaed. Asesir addasrwydd ar sail achos wrth achos, a rhaid i droseddwyr fodloni meini prawf addasrwydd. Byddwn ni’n ymgynghori â dioddefwyr bob tro er mwyn rhoi llais cryfach iddynt o fewn y system cyfiawnder troseddol. Ceisir y canlyniad cyfiawnder troseddol mwyaf priodol, a allai gynnwys ad-dalu’n ariannol neu ymddiheuriad ar lafar, a fydd yn cael ei gytuno â nhw er mwyn helpu i atal aildroseddu a cheisio unioni’r cam.

Bellach, mae gennym hyrwyddwyr cyfiawnder adferol hyfforddedig ym mhob rhanbarth o’r ardal heddlu hon. Siaradwch â’r swyddog sy’n ymdrin â’ch achos i weld pa un ai a fyddai hyn yn rhywbeth yr hoffech ei ystyried, a’r manteision posibl i chi.

Comisiynir Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys er mwyn darparu gwasanaeth cyfiawnder adferol sy’n cael ei arwain gan ddioddefwyr. Maen nhw’n gweithio’n agos â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ac asiantaethau partner er mwyn sefydlu prosesau i sicrhau bod dioddefwyr yn ymwybodol o syniadau cyfiawnder adferol, y gwasanaeth a ddarperir a’r llwybrau cyfeirio.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: “Mae ymchwil, ynghyd â straeon llwyddiant, yn profi y gall cyfiawnder adferol elwa amrediad eang o droseddwyr a dioddefwyr. Mae’r ystadegau’n profi bod cyfiawnder adferol yn gam i’r cyfeiriad cywir – cyfradd boddhad dioddefwyr o 85% a gostyngiad o 14% o ran amlder aildroseddu.”

Os hoffech gymryd rhan yn y cynllun, anfonwch e-bost at wes.restorativejustice@workinglinkssecure.co.uk neu galwch 01554 773736