04 Maw 2021

Ddydd Gwener, 5ed o Fawrth, bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn yn cynnal ei bumed Gynhadledd flynyddol Gwyl Dewi.

O ganlyniadau i gyfyngiadau Covid-19, bydd cynhadledd eleni yn cael ei chynnal ar-lein, gan roi cyfle i ystod eang o bobl a sefydliadau ymuno â'r Comisiynydd a’r siaradwyr gwadd yn ystod y dydd.

Gyda ffocws y gynhadledd eleni ar Ddioddefwyr, bydd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn yn croesawu llu o siaradwyr gwadd o sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau cymorth i Ddioddefwyr, gan gynnwys y Fonesig Vera Baird, y Comisiynydd Dioddefwyr.

Dywedodd CHTh Dafydd Llywelyn, “Rwy’n edrych ymlaen at groesawu pawb i’m pumed gynhadledd flynyddol ddydd Gwener yma, a fydd eleni’n canolbwyntio ar Ddioddefwyr. Gall trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol arwain at ganlyniadau dinistriol i ddioddefwyr, ac fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, rwyf am sicrhau ein bod yn gwella profiadau’r dioddefwyr ac i sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth i ymdopi ac adfer o effaith trosedd.

“Mae’n hanfodol bod dioddefwyr yn gwybod pa wybodaeth a chefnogaeth sydd ar gael iddynt ac mae’r gynhadledd yn gyfle i hyrwyddo’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael, ac i glywed gan unigolion a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y maes hwn.”

“Mae’n fraint croesawu Comisiynydd y Dioddefwyr, y Fonesig Vera Baird a fydd yn ymuno â ni i siarad am ei gwaith yn cynrychioli holl ddioddefwyr troseddau, a gyda’r gynhadledd eleni’n cael ei ffrydio’n fyw ar-lein, fy ngobaith yw bod pobl sydd wedi ei heffeithio gan drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymuno ac yn ymgysylltu â mi a'r holl siaradwyr gwadd yn ystod y dydd.

Yn ogystal â'r Comisiynydd Dioddefwyr, yn ymuno gyda CHTh yn y gynhadledd bydd cynrychiolwyr o Dewis Choice, sy'n cefnogi pobl hŷn sydd wedi dioddef cam-drin domestig; Dirprwy Brif Gwnstabl Dros Dro yn Heddlu Dyfed-Powys, Emma Ackland; Hugh Simkiss, Pennaeth Trosedd HMCTS Cymru; yn ogystal ag Anne Campbell o Embrace Child Victims.

Bydd y Gynhadledd yn cael ei ffrydio'n fyw ar www.facebook.com/DPOPCC rhwng 10:00 am a 3:00 pm ddydd Gwener 5ed Mawrth.

DIWEDD

Nodiadau i'r golygydd:

  • Mae Mr Llywelyn wedi cynnal cynadleddau blaenorol ar reoli gorfodaeth (2017), iechyd meddwl mewn plismona (2018), seiberdroseddu (2019), a throseddau gwledig (2020) ym Mhencadlys yr Heddlu.
  • Bydd eleni ychydig yn wahanol oherwydd cyfyngiadau Covid-19 a bydd y gynhadledd yn symud ar-lein, gan roi cyfle i ystod lawer ehangach o bobl a sefydliadau ymuno â'r Comisiynydd a siaradwyr gwadd am y diwrnod.
  • Bydd y Gynhadledd yn cael ei chynnal ar Facebook Live ar Dudalen Facebook yr OPCC.
  • Mae croeso i bawb ymuno â'r digwyddiad, gwrando ar y sgwrs a gofyn cwestiwn i'r Comisiynydd a'i westeion.

 

Gwybodaeth Bellach:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.pnn.police.uk