09 Tach 2017

Arwyddion clir bod yr heddlu’n gwneud cynnydd cadarnhaol

Gan y Dirprwy Brif Gwnstabl Darren Davies:

“Rwy’n croesawu’r adroddiad effeithlonrwydd diweddaraf gan AHEMGTA ac er ein bod ni’n un o 10 heddlu y barnwyd ei fod ‘Angen Gwella’ yn gyffredinol, sy’n golygu bod gennym lawer o waith eto i’w wneud, mae arwyddion clir o fewn yr adroddiad bod yr heddlu’n gwneud cynnydd cadarnhaol.

“Ar adeg yr archwiliad hwn, roedd y tîm Prif Swyddogion newydd ond wedi bod wrth ei waith ers ychydig fisoedd, ac rydyn ni wedi gweithio’n ddiflino gyda’r holl aelodau staff i wella perfformiad.

“Mewn blynyddoedd diweddar, aseswyd bod Dyfed-Powys angen gwella ym mhob un o’r 3 maes sy’n ffurfio’r adroddiad effeithlonrwydd – eleni, am y tro cyntaf, barnwyd ein bod ni’n dda am ddeall galw, ond mae dal angen gwella arnom o ran adnoddau a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Yn amlwg, er mwyn defnyddio adnoddau a chynllunio ar gyfer y dyfodol, mae’n hanfodol ein bod ni’n deall y galw rydyn ni’n wynebu, ac rydyn ni wedi symud ymlaen i fod yn dda yn hynny o beth. Mae hyn yn gam bach ond pwysig o ran parhau i wella fel heddlu.”

Dywed yr adroddiad: “Mae gan yr heddlu brosesau a systemau sydd wedi’u hen sefydlu sy’n ei alluogi i fonitro a deall galw cyfredol, gan gynnwys galw a all fynd heb ei adrodd. Mae’n defnyddio’r ddealltwriaeth hwn i symud adnoddau i’r llefydd lle mae eu hangen mwyaf. Mae arweinwyr yr heddlu hefyd yn dda am hyrwyddo meddwl arloesol i leihau galw, a defnyddio technegau gwella parhaus yn dda, gan nodi gwastraff ac arferion aneffeithlon” ac ychwanega’n ddiweddarach bod hyn “yn welliant sylweddol ar ein canfyddiadau blaenorol…..”

“Yn yr adroddiad, mae AHEMGTA wedi nodi 5 maes ar gyfer gwella, ac rydyn ni eisoes wedi dechrau mynd i’r afael â’r rhain. Byddwn ni’n parhau i weithio’n galed i unioni’r rhain, ac ar yr un pryd, cynnal y cyfeiriad teithio cadarnhaol.

“Edrychwn ymlaen at dderbyn adroddiadau pellach gan AHEMGTA yn ystod yr wythnosau i ddod ar Gyfreithlondeb ac Effeithiolrwydd, lle’r ydym yn hyderus y bydd tystiolaeth bendant bellach o’n cynnydd mewn ymdrech i gyflwyno’r plismona o safon uchel y mae’n cymunedau’n haeddu.

“Rydw i’n arwain y gwaith hwn yn bersonol, ac rydw i wedi gweld â’m llygaid fy hun yr egni, ymrwymiad a’r ysfa a ddangosir gan yr heddlu cyfan wrth geisio gwella’r hyn a wnawn ar bob lefel yn barhaus.”

Gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn

 ‘Mae’n amlwg wrth ddarllen yr adroddiad bod gwelliannau’n cael eu gwneud i’r ffordd y mae Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio ei adnoddau. Mae hyn yn dyst i waith caled ac ymrwymiad Swyddogion a Staff ac arweinyddiaeth y Prif Gwnstabl Collins a’i dîm.

“Er bod llawer o waith i’w wneud o hyd, rwy’n hyderus y bydd adroddiadau yn y dyfodol yn dangos gwelliant parhaus a fydd, yn y pen draw, yn arwain at wasanaeth gwell i’r cyhoedd yn ardal Dyfed-Powys.”