16 Tach 2017

Ymgynghoriad Cynllun Llesiant Drafft - ar agor tan 3 Ionawr 2018


Pam yr ydym yn ymgynghori?

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod disgwyliad ar bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) i ddatblygu a chyhoeddi Cynllun Llesiant erbyn mis Mai 2018.  Fel rhan o waith paratoi y Cynllun Drafft hwn mae rydym wedi cynnal Asesiad Llesiant manwl ar lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwyllianol y sir a defnyddiwyd yr asesiad ynghyd â chyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu i adnabod yr amcanion llesiant ar gyfer y Cynllun a’r pwyntiau gweithredu i wneud cynnydd yn erbyn yr amcanion hynny.

Rydym yn ceisio eich barn ar yr amcanion a phwyntiau gweithredu hynny wrth i ni baratoi i gyhoeddi ein Cynllun Llesiant gyntaf ar gyfer Sir Gâr ym mis Mai 2018.

Sut mae cyfrannu:

Cwbwlhewch yr arolwg arlein; lawrlwythwch yr arolwg, ei gwblhau a’i ddychwelyd at BGC Sir Gâr, d/o Cyngor Sir Gâr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP; cysylltwch â ni am gopi papur o’r arolwg ar 01267 224201 neu ebost gwybodaeth@ysirgaragarem.cymru

Os ydych yn byw, gweithio neu’n ymweld â Cheredigion a/neu Sir Benfro ac eisiau cyfrannu at ddatblygiad eu Cynlluniau Llesiant nhw, gallwch gael mynediad at eu cynlluniau drafft a’u hymgynghoriadau trwy’r dolenni isod:

Ceredigion

Sir Benfro

Y Camau Nesaf:

Bydd adborth o’r ymgynghoriad hwn yn cael ei ystyried a’i ddefnyddio er mwyn hysbysu paratoi y Cynllun Llesiant terfynol erbyn mis Mai 2018.