12 Rhag 2019

Cwestiynau Cyffredin

Pa fath o ymddygiad neu weithgarwch allai gael ei ystyried yn amheus?

 

Mae enghreifftiau o ymddygiad neu weithgarwch amheus yn cynnwys:

  • Llogi cerbydau mawr neu gerbydau tebyg heb reswm amlwg.
  • Prynu neu cadw llawer iawn o gemegau, gwrteithiau neu silindrau nwy heb reswm amlwg.
  • Cymryd nodiadau neu dynnu lluniau o drefniadau diogelwch, neu archwilio camerâu TCC mewn modd anarferol.
  • Edrych ar ddeunydd eithafol, gan gynnwys ar y We Dywyll, neu rannu a chreu cynnwys sy'n hyrwyddo neu'n gogoneddu terfysgaeth.
  • Rhywun yn derbyn eitemau anarferol a brynwyd ar-lein.
  • Cofleidio syniadau atgas neu ideoleg eithafol, neu eu hyrwyddo'n weithredol.
  • Meddu ar arfau saethu anghyfreithlon neu arfau eraill, neu ddangos diddordeb mewn cael gafael arnynt.
  • Dal pasbortau neu ddogfennau eraill mewn enwau gwahanol heb reswm amlwg.
  • Rhywun sy'n teithio am gyfnodau hir o amser, ond yn amwys i ble maent yn mynd.
  • Rhywun sy'n cyflawni trafodion banc amheus neu anarferol.

 

Pa mor siŵr sydd angen i mi fod cyn sôn am fy amheuon?

Rydych chi wir yn credu bod rhywbeth yn digwydd, neu'n credu bod rhywun yn ymddwyn yn amheus.

 

Os yw fy ngwybodaeth yn anghywir, a fyddaf wedi gwastraffu amser yr heddlu?

Efallai nad ydych chi wir yn credu bod rhywbeth mawr o'i le, ond oni bai eich bod chi'n dilyn eich greddf a dweud wrthym, ni fydd modd i ni farnu pa un ai a yw'r wybodaeth sydd gyda chi’n bwysig ai peidio.

Cofiwch, nid yw'r un darn o wybodaeth yn cael ei hystyried yn rhy fach neu ddibwys. Byddai'n well gan ein swyddogion a'n staff heddlu, sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig, dderbyn llawer o alwadau a wnaed yn ddiffuant, ond sydd ag esboniadau diniwed, na pheidio â derbyn unrhyw alwadau o gwbl.

 

Sut ydw i'n adrodd am weithgarwch neu ymddygiad amheus?

Medrwch adrodd ar-lein yn gyflym drwy www.gov.uk/ACT, neu fe allwch alw'r heddlu yn gyfrinachol ar 0800 789 321. Cofiwch, mewn argyfwng, dylech alw 999 bob tro.

 

Beth os oes rhywbeth yn digwydd ac mae angen cymorth brys arnaf?

Os yw'n argyfwng, dylech alw 999.

Fodd bynnag, os nad yw'n argyfwng ond mae angen presenoldeb yr heddlu, mae'n bosibl y bydd triniwr galwadau'r Llinell Gymorth Gwrthderfysgaeth yn eich cynghori i gysylltu ag 101 fel bod modd i swyddogion lleol gael eu hanfon i leoliad y digwyddiad yn gynt.

 

Pwy fydd yn derbyn fy ngalwad neu'n darllen fy adroddiad ar-lein?

Bydd Swyddog Heddlu Gwrthderfysgaeth neu aelod o staff yr heddlu sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig yn adolygu eich gwybodaeth o fewn dwy awr.

 

Pa fath o wybodaeth fydd yr heddlu ei hangen wrthyf?

Bydd angen cymaint o fanylion â phosibl arnom. Gallai hyn gynnwys y dillad roedd rhywun yn gwisgo, ei oed, taldra, ethnigrwydd a gweithredoedd, er enghraifft.

Gall gwybodaeth megis ei enw, man gwaith a rhif cofrestru ei gar helpu'r heddlu i adnabod yr unigolyn ac ymchwilio i'r mater.

 

A oes angen i mi roi fy enw neu unrhyw fanylion personol?

Na. Gewch chi ddewis pa un ai a ydych chi eisiau gadael eich manylion cyswllt.

 

A yw'n gyfrinachol?

Ydy. Mae'r holl wybodaeth rydych chi'n rhoi'n cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Does dim rhaid i chi roi eich manylion os nad ydych yn dymuno gwneud hynny.

 

Beth os ydw i'n poeni y bydd rhywun yn dod i wybod fy mod i wedi cysylltu â'r heddlu?

Medrwn eich sicrhau bod yr holl wybodaeth a galwadau'n cael eu trin yn hollol gyfrinachol, ac ni fyddant yn cael eu rhyddhau i'r cyhoedd.

Deallwn y gall pobl deimlo'n betrusgar ynghylch cysylltu â'r heddlu, naill ai oherwydd eu bod nhw'n poeni y bydd eu teulu neu ffrindiau'n dod i wybod, neu fod esboniadau diniwed i'w hamheuon.

 

A fydd fy ngalwad yn cael ei olrhain neu ei recordio?

Ni fydd eich galwad yn cael ei recordio. Cewch adael eich manylion os ydych chi'n dymuno hynny.

 

Faint o amser y bydd yn ei gymryd i roi adroddiad?

Mae'n dibynnu faint o wybodaeth sydd gennych i'w rhoi pan fyddwch chi'n cysylltu â ni.

 

Beth fydd yn digwydd i'r wybodaeth?

Bydd ein swyddogion a'n staff heddlu sy'n derbyn y galwadau, sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig, yn asesu ac yn gwerthuso'r wybodaeth rydych chi'n rhoi cyn penderfynu beth i'w wneud.

 

A fyddaf yn derbyn diweddariad?

Yn anffodus, oherwydd materion diogelu data, ni fydd modd i ni roi diweddariadau.

 

Sut fydd yr heddlu'n cysylltu â mi os oes angen iddynt siarad â mi eto?

Byddwn ond yn cysylltu â chi os oes angen i ni eich holi ymhellach am y wybodaeth a roddwyd gennych. Cewch ddewis pa un ai a ydych chi am roi eich manylion cyswllt.

 

A fydd angen i mi roi datganiad?

Mewn achos lle rydych chi'n rhoi gwybodaeth ac eisiau gadael eich manylion cyswllt, mae'n bosibl y cewch eich holi i roi datganiad, fodd bynnag, bydd hyn yn dibynnu ar eich dymuniadau chi.

 

A oes llinell iaith gyda'r llinell gymorth?

Os ydych chi'n cael trafferth siarad Saesneg, cewch ofyn i ffrind sy'n medru siarad Saesneg gysylltu â ni ar eich rhan. Fodd bynnag, bydd angen i ni ystyried y math o alwad a'r preifatrwydd a lefel y wybodaeth sy'n cael ei datgelu.

 

Rwy'n drwm fy nghlyw. Sut alla i gyflwyno gwybodaeth rwy'n credu sy'n bwysig?

Cewch gysylltu â'r llinell gymorth ar-lein drwy alw heibio i www.gov.uk/ACT.

 

A oes modd i mi adrodd am fy amheuon dros y ffôn yn hytrach nag ar-lein?

Os yw'n well gennych gyflwyno gwybodaeth dros y ffôn yn hytrach nag ar-lein, cewch alw'r heddlu'n gyfrinachol ar 0800 789 321.

 

A fyddaf yn derbyn gwobr os ydw i'n galw'r llinell gymorth er mwyn rhoi gwybodaeth?

Ni fyddwch chi'n derbyn gwobr os fyddwch chi'n galw'r llinell gymorth er mwyn rhoi gwybodaeth.

 

A oes rhywun arall y gallaf siarad â nhw os nad ydw i eisiau cysylltu â'r heddlu?

Gall teulu neu ffrindiau rydych chi'n ymddiried ynddynt roi gwybodaeth ar eich rhan, ond bydd angen i ni gadarnhau'r manylion a roddwyd gyda chi.

Cewch adrodd am drosedd neu gyflwyno gwybodaeth ar-lein hefyd, neu drwy alw Crimestoppers Cymru yn ddienw ar 0800 555 111.

Cofiwch, os yw'n argyfwng, galwch 999.