17 Ebr 2019

17/04/19

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: “Mae Heddlu Dyfed-Powys yn mynd i’r afael yn rhagweithiol â masnachu mewn cyffuriau anghyfreithlon”

Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, wedi ei galonogi gan y ffordd y mae Heddlu Dyfed-Powys yn mynd i’r afael â masnachu cyffuriau anghyfreithlon, a’r ymateb rhagweithiol a gymerwyd gan swyddogion heddlu er mwyn ymdrin â hyn.

Dyma brif ganfyddiadau arolwg annibynnol a wnaed gan y Comisiynydd ar ymagwedd yr heddlu tuag at fynd i’r afael â chyflenwi a defnyddio cyffuriau anghyfreithlon yn Nyfed-Powys. Mae ei adroddiad hefyd yn awgrymu y gellir gwneud mwy er mwyn mynd i’r afael â’r niwed a achosir gan gamddefnyddio sylweddau, a bod angen i asiantaethau weithio’n well gyda’i gilydd.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn:

“Rwy’n dawel fy meddwl fod ymgyrchoedd rhagweithiol Heddlu Dyfed-Powys yn effeithiol wrth aflonyddu ar weithgarwch troseddol trefnedig a difrifol. Mae fy adroddiad yn tynnu sylw at gynnydd o 49% mewn troseddau masnachu cyffuriau anghyfreithlon ers 2016. Mae hyn yn dangos cyswllt clir rhwng y blaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu a’r ffordd y mae plismona’n cael ei gyflwyno ledled Dyfed-Powys.

“Fodd bynnag, mae angen perthynas weithio agosach a mwy cyson rhwng pob partner o ran mynd i’r afael ag anghenion camddefnyddio sylweddau'r rhai sydd wedi’u heffeithio fwyaf, gan sicrhau yr ymdrinnir â’r materion hyn mewn ffordd fwy holistig, sy’n cynnwys y system gyfan”.

Wedi’i sbarduno gan adborth gan y cyhoedd mai’r defnydd anghyfreithlon o gyffuriau oedd eu pryder mwyaf, yn ogystal ag ymgyrchoedd heddlu proffil uchel arwyddocaol a oedd yn targedu masnachu cyffuriau, roedd yr adolygiad yn cynnwys ymgynghori â’r cyhoedd, defnyddwyr gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, a swyddogion a staff yr heddlu, yn ogystal ag ystyried datrysiadau amgen i’r broblem.

Cyflwynwyd cyfres o argymhellion i’r Prif Gwnstabl, Mark Collins, a fydd yn nodi camau gweithredu arfaethedig yr Heddlu mewn ymateb ffurfiol i’r Comisiynydd. Bydd swyddfa’r Comisiynydd yn defnyddio’r cynllun gweithredu hwn i adolygu cynnydd yr Heddlu dros y misoedd nesaf.

 

Dywedodd y Prif Gwnstabl Mark Collins:

"Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Comisiynydd ac i'w Swyddfa am fuddsoddi yn yr adroddiad hwn sy'n canolbwyntio ar sut rydym yn mynd i'r afael â chamddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon - un o'm prif flaenoriaethau ar gyfer yr heddlu o ran cadw ein cymunedau'n ddiogel. Yr wyf yn falch o weld bod yr adroddiad wedi nodi rhai o'r ffactorau llwyddiannus yn ein brwydr yn erbyn camddefnyddio cyffuriau, gan ddatgelu hefyd sut y mae Heddlu Dyfed Powys wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r problemau a'r niwed eang a ddaw yn sgil camddefnyddio cyffuriau yn ein cymunedau.

"Byddwn yn parhau i ddarparu ac adeiladu ar yr ymateb holistaidd i gamddefnyddio cyffuriau a sylweddau o fewn ardal ein heddlu, gan barhau i ganolbwyntio ar adsefydlu'r rheini sy'n gaeth i gyffuriau, a chymryd camau cadarnhaol hefyd i fynd i'r afael â delio a chyflenwi cyffuriau, yn enwedig y rhai sy'n targedu pobl sy’n agored i niwed a phobl ifanc. Byddaf yn sicrhau bod y llu bellach yn cydweithio'n agos â Swyddfa'r Comisiynydd i sicrhau bod yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad yn cael eu trafod ar lefel strategol a gweithredol, ac yn darparu camau sydd wedi’u cynllunio wrth symud ymlaen."

Bydd yr adroddiad llawn ar yr adolygiad yn cael ei rannu ag aelodau’r Panel Heddlu a Throseddu yn eu cyfarfod cyhoeddus ar 26 Ebrill 2019.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

  1. Cewch weld yr adroddiad llawn, crynodeb a blog fideo’r Comisiynydd ar http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/atebolrwydd-a-thryloywder/craffu/craffu-dwys/mynd-i-r-afael-a-chyffuriau-anghyfreithlon/ 
  2. Mae’r Comisiynydd ar gael i gael ei gyfweld, trwy gysylltu â’r swyddfa (01267) 226 440.