17 Maw 2020

Ddydd Gwener, 13 Mawrth 2020, cyhoeddodd y Llywodraeth y byddpob etholiad lleol, maer a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu a oedd i fod i gael eu cynnal y mis Mai hwn yn cael eu gohirio tan fis Mai 2021.

Gwnaed y penderfyniad yn dilyn cyngor gan arbenigwyr meddygol y Llywodraeth mewn perthynas â’r ymateb i’r firws Covid-19 a chyngor y rhai sy’n gweithredu etholiadau.

Mae Cymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn gweithio'n agos gyda'r Swyddfa Gartref wrth ddrafftio cymalau ar gyfer deddfwriaeth frys mewn perthynas â'r gohirio.

Bydd hyn yn caniatáu i'r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd presennol barhau yn eu rôl am flwyddyn arall.

Felly bydd Comisiynydd presennol Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn yn aros yn ei swydd tan fis Mai 2021.

Dywedodd Carys Morgans, Pennaeth Staff yn Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, “Yng ngoleuni'r sefyllfa bresennol, ein bwriad yw ceisio cymeradwyaeth gan Banel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys i ymestyn y Cynllun Heddlu a Throseddu cyfredol am flwyddyn arall.

“Bydd hyn yn caniatáu i'r Swyddfa, a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu cyfredol, Dafydd Llywelyn i barhau i weithio ar y blaenoriaethau allweddol a amlinellir yn y Cynllun am flwyddyn ychwanegol.”

Gellir gweld copi o’r Cynllun Heddlu a Throseddu cyfredol yma.

DIWEDD