28 Maw 2022

Ddydd Iau 31 Mawrth 2022, bydd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Dafydd Llywelyn yn cynnal darllediad byw ‘Sgwrs y Comisiynydd’ ar y cyfryngau cymdeithasol gyda Phrif Gwnstabl newydd Heddlu Dyfed-Powys, Dr. Richard Lewis.

Penododd CHTh Dafydd Llywelyn Dr. Richard Lewis i rôl y Prif Gwnstabl y llynedd yn dilyn ymddeoliad Mark Collins. Roedd Dr Lewis wedi gwasanaethu fel Prif Gwnstabl Heddlu Cleveland ers mis Ebrill 2019.

Yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, dechreuodd ei yrfa yng ngwasanaeth yr heddlu yn 2000. Yn ystod ei 18 mlynedd gyda Heddlu Dyfed-Powys gwasanaethodd ym mhob rheng hyd at Ddirprwy Brif Gwnstabl, gan weithio ym mhob un o bedair sir yr heddlu. Mae hefyd wedi bod yn bennaeth yr adran safonau proffesiynol ac wedi cadeirio Gweithgor Gwrth-lygredd Cymru.

Cyhoeddoedd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn ei Gynllun Heddlu a Throseddu newydd ar gyfer 2021-2025 yn ddiweddar, sy’n nodi ei weledigaeth a’i flaenoriaethau ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys. Ers dechrau yn ei rôl ym mis Rhagfyr 2021, mae’r Prif Gwnstabl Richard Lewis wedi bod yn ymgynghori ac yn ymgysylltu o fewn a thu allan i sefydliad Dyfed Powys, i sicrhau bod gan gymunedau a’r gweithlu lais wrth lunio cynlluniau ar gyfer y dyfodol, ac y gall yr Heddlu gyflawni yn erbyn blaenoriaethau'r CHTh.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn: “Mae gan Dr Richard Lewis hanes gwych o frwydro yn erbyn trosedd a rheoli plismona cymunedol. Mae ei brofiad helaeth a’i ddealltwriaeth o blismona yn ogystal â’i wybodaeth am ardal Dyfed-Powys yn ei roi mewn lle da i gefnogi’r blaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu.

“Rwy’n edrych ymlaen at drafod yn fyw yn gyhoeddus gydag ef nos Iau. Byddwn yn anelu at gael trafodaeth agored am yr heriau a’r cyfleoedd presennol i Heddlu Dyfed Powys, yn ogystal â’r hyn yr ydym am ei gyflawni o fewn ein rolau, a gobeithio y byddwn yn cymryd rhai cwestiynau gan wylwyr”.

Bydd sgwrs y Comisiynydd â’r Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis yn cael ei darlledu’n fyw nos Iau 31 Mawrth 2022, am 8:00pm ar dudalen Facebook Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, www.facebook.com/DPOPCC.