24 Tach 2023

Yr wythnos hon, fel rhan o Wythnos Diogelwch Ffyrdd, mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn wedi cyhoeddi ei fod am gymeradwyo estyniad 12 mis i wasanaeth cymorth i ddioddefwyr ffyrdd yn ardal Dyfed-Powys y mae wedi’i ariannu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Bydd y cyllid yn galluogi’r darparwr gwasanaeth Brake i barhau i gyflogi Eiriolwr Dioddefwyr Ffyrdd Annibynnol (IRVA), gan weithio gyda Heddlu Dyfed-Powys ac yn uniongyrchol gyda dioddefwyr sydd wedi’u heffeithio gan ddigwyddiadau ar y ffyrdd.

Gwasanaeth Dioddefwyr Ffyrdd Cenedlaethol Brake (NRVS) yw’r darparwr cymorth i ddioddefwyr ffyrdd mwyaf blaenllaw yn y DU. Mae ganddynt record 20 mlynedd o ddarpariaeth gwasanaethau dioddefwyr ffyrdd achrededig gan ddefnyddio'r model gofal sefydledig sy'n seiliedig ar dystiolaeth a elwir yn ofal a reolir gan achosion.

Mae’r cyllid a ddarperir gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn yn galluogi Brake i weithio mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed-Powys i weithio i rymuso dioddefwyr damwain ffordd, gan sicrhau bod ganddynt fynediad i wasanaeth cymorth ymyrraeth arbenigol a’u bod yn cael eu cefnogi ganddo. Mae’r cyllid yn caniatáu i’r rôl hon fod yn ei lle tan fis Ebrill 2025.

Nid llinell gymorth yw’r ddarpariaeth gofal hon – gofal a reolir gan achos o’r diwrnod cyntaf yw hwn am gyhyd ag sydd ei angen (weithiau mwy na blwyddyn) cyn gadael yn ddiogel. Darperir gofal trwy aseinio gweithiwr achos cyflogedig penodol a hyfforddedig i ddioddefwr.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn; “Yn anffodus, mae gwrthdrawiadau ffyrdd yn gyffredin yma yn Nyfed-Powys, er gwaethaf gwaith rhagweithiol ein Huned Plismona’r Ffyrdd, Gwylio Cyflymder Diogelwch Cymunedol, a Gan Bwyll.

“Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i yrru’n ddiogel a pharchu defnyddwyr eraill y ffyrdd. Ni ddylid derbyn y gyfradd anafiadau a welsom yma yn 2019 ac rwyf wedi ymrwymo i leihau’r ystadegau hyn a’r gost ddynol ofnadwy gysylltiedig.

“Ni allaf ddechrau dychmygu’r trawma a brofir gan deuluoedd sy’n dioddef profedigaeth neu anaf sy’n newid bywyd mewn gwrthdrawiad ffordd a gobeithio, trwy ariannu’r gwasanaeth hwn a ddarperir gan Brake, y gallwn helpu i leddfu rhywfaint o’r dioddefaint, yr ofn a’r ansicrwydd hwnnw i ddioddefwyr yn Nyfed-Powys.”

Dywedodd Jami Blythe, Rheolwr Datblygu gyda Brake: “Diolch i gyllid gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, mae Brake yn gallu ymestyn gweithrediad y Gwasanaeth Dioddefwyr Ffyrdd Cenedlaethol i’r ardal leol hon. Bydd y cyllid yn helpu dioddefwyr damweiniau ffordd yn Nyfed-Powys i ymdopi â'r sioc, y cythrwfl a'r dinistr y mae damweiniau ffordd yn ei achosi i deuluoedd. Bydd yr Eiriolwr Dioddefwyr Ffyrdd Annibynnol yn gweithio gyda theuluoedd lleol i ddarparu'r cymorth hanfodol sydd ei angen arnynt. Rydym yn hynod ddiolchgar i fod yn rhan o ymrwymiad y Comisiynydd i gefnogi anghenion dioddefwyr damweiniau ffordd.”

Mae’r wythnos hon yn Wythnos Diogelwch Ffyrdd - ymgyrch diogelwch ffyrdd fwyaf Brake sy’n rhedeg o 19-25 Tachwedd 2023. Yn gynharach yr wythnos hon, siaradodd y Comisiynydd ag Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu Dyfed-Powys yn Sir Benfro i ddysgu mwy am yr hyn y mae’r tîm yn ei wneud i gefnogi diogelwch ffyrdd. Gallwch ddarllen am ei ymweliad â Sir Benfro yma.

Bob blwyddyn, mae miloedd o ysgolion, sefydliadau a chymunedau yn cymryd rhan i rannu negeseuon diogelwch ffyrdd pwysig, cofio pobl yr effeithiwyd arnynt gan farwolaethau ac anafiadau ar y ffyrdd, a chodi arian i helpu Brake i ofalu am fwy o ddioddefwyr ffyrdd ac ymgyrchu dros ffyrdd diogel i bawb.

Gallwch ddarllen mwy am ymgyrch Wythnos Diogelwch Ffyrdd gan Brake yma.

Gellir cyrchu gwasanaeth cymorth rhad ac am ddim Brake os ydych mewn profedigaeth, wedi’ch anafu’n ddifrifol, neu’n helpu dioddefwr damwain ffordd trwy ffonio 0808 8000 401 neu e-bostio help@brake.org.uk.

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk