22 Rhag 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn yn annog pobl ifanc sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi, i estyn allan am gefnogaeth yn dilyn cynnydd sydyn mewn galwadau i gefnogi pobl ifanc o dan y ddeddf iechyd meddwl, a nifer o achosion honedig o hunanladdiad yn Dyfed-Powys yn ystod misoedd Hydref a Tachwedd.

Cafodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ei wneud yn ymwybodol o'r cynnydd sydyn yn nifer yr achosion mewn cyfarfod o'r Bwrdd Plismona ym mis Rhagfyr, lle mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif ar faterion plismona.

Mae ffigurau’n dangos, ym mis Hydref a mis Tachwedd, bod pedwar achos honedig o hunanladdiad wedi cael eu riportio ymhlith pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed, a gafodd eu disgrifio gan y Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd fel rhai ‘trasig’.

Mae ffigurau hefyd yn dangos y bu cynnydd yn nifer achosion o Adran 136 Deddf Iechyd Meddwl ar gyfer plant dan 18 oed ac mae’r holl wasanaethau cymorth ieuenctid yn nodi cynnydd mewn galw.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd; “Mae yna nifer o wasanaethau cymorth ar gael i bobl ifanc sy’n ei chael hi'n anodd neu sy'n dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl, ac rydw i'n annog pobl ifanc i estyn allan, siarad ag eraill a pheidio â dioddef mewn distawrwydd.

“Rwyf wedi cael gwybod ein bod ni yma yn Dyfed Powys, yn ddiweddar, wedi gweld cynnydd sydyn mewn galwadau ar yr heddlu i gefnogi pobl ifanc o dan y ddeddf iechyd meddwl, ac i fynd â nhw i le diogel, yn ogystal â gorfod mynychu nifer o achosion honedig o hunanladdiad yn ystod misoedd Hydref a mis Tachwedd - sy'n drasig.

“Mae wedi bod yn anodd iawn i bobl ifanc dros gyfnod y pandemig. Gall fod yn anodd iddynt weithiau i fynegi eu hemosiynau, yn enwedig pan fydd eu hamgylchiadau'n newid. Er enghraifft, dangosodd y cyfnod clo, sut mae newid mewn amgylchiadau yn cael effaith ddifrifol ar bobl ifanc. Mae cael llai o breifatrwydd a llai o fynediad at ffrindiau, teulu a chydweithwyr o ganlyniad i fod gartref trwy'r amser, neu orfod gweithio neu ddysgu mewn amgylchedd newydd, i gyd yn lliniaru rhag teimlo'n ddiogel ac yn emosiynol dda.

“Byddwn yn annog pob un ohonom i helpu pobl ifanc mewn unrhyw ffordd bosibl, a pheidio aros tan i chi eu gweld yn dechrau dioddef.

“Os ydych chi'n rhiant sy'n poeni am eich plentyn, neu os ydych chi'n poeni am rywun arall, estynwch allan atynt cyn ei bod hi'n rhy hwyr. Mae angen i ni sicrhau ein bod yn galluogi ein pobl ifanc i fod yn nhw eu hunain, i fynegi eu hunain, ac i rannu eu heriau yn agored.

“Mae'r heddlu'n parhau i fuddsoddi mewn hyfforddiant iechyd meddwl ac adnoddau gweithredol i helpu i fynd i'r afael â'r heriau hyn. Gallaf roi sicrwydd i'r cyhoedd bod eich swyddogion a'ch staff yn gweithio'n ddiflino gydag asiantaethau partner yn ddyddiol i fynd i'r afael â'r gofynion cynyddol hyn.

“Os ydych chi'n berson ifanc sy'n ei chael hi'n anodd, siaradwch â ffrindiau, aelodau o'r teulu, cydweithwyr, neu estynwch allan at y gwasanaethau cymorth sydd yno i'ch cefnogi chi - peidiwch â dioddef mewn distawrwydd”.

Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, mae Dafydd Llywelyn yn comisiynu gwasanaethau yn uniongyrchol gan ddarparwyr arbenigol yn Dyfed Powys i helpu i atal troseddau, cefnogi'r bregus a mynd i'r afael â materion pwysig. Mae Dewis Cymru yn un o'r gwasanaethau a gomisiynwyd yn Dyfed-Powys i ddarparu cyngor llesiant. Ymhlith y darparwyr gwasanaeth eraill mae Hafan Cymru, Llamau, DDAS, Kaleidoscope, Goleudy a Pobl. Gellir gweld manylion yr holl ddarparwyr ar wefan y Comisiynydd.

DIWEDD

Rhagor o wybodaeth.

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.pnn.police.uk