29 Tach 2021

Wrth i Gynllun Dargyfeirio Troseddwyr Dyfed Powys gyrraedd carreg filltir penodol ers ei lansio ddwy flynedd yn ôl, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn yn ymfalchïo gyda nifer y troseddwyr sydd wedi eu hatgyfeirio i'r cynllun dros y cyfnod, ynghyd â'r cyfradd cwblhau.

Mae Pobl Care and Support Group yn cael eu comisiynu gan y Comisiynydd Dafydd Llywelyn i ddarparu'r cynllun dargyfeirio yn ardal yr Heddlu. Rhwng Tachwedd 2019 ac Awst 2021 bu i 1158 o droseddwyr gael eu hatgyfeirio at y darparwr, gyda 907 o unigolion yn cael eu cymryd ar gontract pedwar mis, 25% o’r rhain yn fenywod. O'r rhain, bu cyfradd cwblhau gyffredinol o 94%.

Cafodd y Cynllun Dargyfeirio Troseddwyr ei lansio yn ardal Heddlu Dyfed Powys ym mis Tachwedd 2019 gyda'r nod o ddargyfeirio troseddwyr i ffwrdd o'r system cyfiawnder troseddol trwy fynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu yn gynnar.

Trwy ddarparu ymyrraeth gynnar, mae Pobl Group yn rhoi cefnogaeth ac arweiniad i droseddwyr lefel isel drwy eu cynorthwyo i gael mynediad at gefnogaeth, gwneud dewisiadau gwell ac o bosibl cynorthwyo i leihau’r galw nid yn unig am wasanaethau yr heddlu ond hefyd asiantaethau eraill a gwasanaethau iechyd.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd: “Rwy’n falch o weld fod cynifer o atgyfeiriadau wedi bod dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn ogystal â’r cyfraddau gwblhau uchel.

“Mae'r fenter hon yn ceisio mynd i'r afael ag achos sylfaenol troseddu a materion cysylltiedig a iechyd a chymuned. Mae'r dull aml-asiantaeth yn ceisio mynd i'r afael ag ymddygiad troseddol yn gynharach o lawer yn nhaith troseddu unigolyn a gwella ymwybyddiaeth a gwasanaethau cymorth i droseddwyr cymwys sy'n cyflawni troseddau lefel isel.

“Yn hanfodol, yr hyn y mae'r cynllun hwn yn ei wneud yw rhoi ail gyfle i bobl. Pan ddaw pobl i mewn i'r system cyfiawnder troseddol, mae hwn yn gyfle iddynt fynd trwy gynllun dargyfeirio a fydd yn gweithio gyda nhw fel person, gan geisio deall y rhesymau y tu ôl i'w troseddu a rhoi'r cymorth priodol iddynt.

“Mae tystiolaeth yn dangos bod y dull hwn yn arwain at ostyngiadau mewn aildroseddu. Trwy leihau’r troseddu, rydym yn amlwg yn lleihau nifer y dioddefwyr yn ardal yr heddlu a gall hynny ond bod yn rhywbeth cadarnhaol i’n cymunedau.”

Fel rhan o'r Grŵp Pobl, mae Pobl Care & Support yn brif ddarparwr gwasanaethau gofal a chymorth i bobl sy'n byw yng Nghymru a De-orllewin Lloegr, sydd wedi'i anelu'n benodol at wella bywydau a galluogi annibyniaeth.

Dywedodd Annette Brenchley, Rheolwr Ardal Sir Benfro a Ceredigion, “Mae Pobl Care & Support yn falch o fod yn rhan o gynllun dargyfeirio Dyfed-Powys. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi cefnogi dros fil o gyfranogwyr i fynd i'r afael â'r ffactorau cyfrannol sylfaenol a arweiniodd at eu troseddu. Mae canlyniadau llwyddiannus yn dibynnu ar gyfranogiad y cyfranogwyr mewn rhaglen pedwar mis.

“Mae'r broses hon yn aml yn heriol iddyn nhw, ond gyda'u hymrwymiad nhw fel unigolion a'n cefnogaeth ni, gall y canlyniadau newid bywyd, nid yn unig iddyn nhw eu hunain ac i'w teuluoedd, ond i'r gymuned ehangach a fydd yn gweld lleihad yn y nifer o droseddu”

Fel rhan o'r cyfweliad ymadael o'r cynllun, gofynnir i unigolion am eu hadborth ar sut y daethant o hyd i'r cynllun. Mae 88% wedi darparu adborth bod y cynllun wedi eu galluogi i wneud newidiadau cadarnhaol.

Rwy'n teimlo bod y dewisiadau rydw i'n eu gwneud yn fy mywyd nawr yn rhai i'w gwneud. Cyn i mi deimlo fel bod pawb arall yn mynnu imi beth ddylwn i ei wneud. Dim mwy - dyna fy mywyd ac rwy'n gyfrifol am y dewisiadau rwy'n eu gwneud”- sylw uniongyrchol gan gleientiaid

 

Roedd yr adborth hefyd yn cynnwys 91% o unigolion a oedd yn dweud eu bod yn teimlo'n fwy diogel yn dilyn y cynllun. Gall y teimlad o ddiogelwch olygu rhywbeth gwahanol i bob unigolyn, i rai efallai mai eu hamgylchedd byw a'u sefyllfa o ran tai, neu deimlo'n fwy diogel yn delio â pherthynas gam-drin. Dywedodd 90% o unigolion fod y cynllun wedi gwella eu gallu i fyw bywyd di-drosedd cynhyrchiol yn y gymuned.

 

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk

Gwefannau perthnasol:

Pobl - Making a difference to people's lives (poblgroup.co.uk)

Gwasanaethau sydd ar gael i chi (dyfedpowys-pcc.org.uk)