24 Chw 2022
Ddydd Gwener 4 Mawrth 2022, bydd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn yn cynnal ei chweched Gynhadledd flynyddol ar Ddydd Gŵyl Dewi ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys yng Nghaerfyrddin.
Mae Cynadleddau blaenorol wedi canolbwyntio ar Reoli Gorfodol (2017); Iechyd Meddwl mewn Plismona (2018); Seiberdroseddu (2019); Troseddau Cefn Gwlad (2020) a Dioddefwyr (2021).
Eleni, mae ffocws Cynhadledd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (YGG) gyda siaradwyr gwadd yn cynnwys Prif Gwnstabl Cenedlaethol yr Heddlu ar Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol, Andy Prophet, sy'n Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Essex, a Charlotte Hamilton-Kay sy'n yw'r Rheolwr Prosiect Dioddefwyr Arbenigol gydag ASB Help - elusen a sefydlwyd i roi cyngor a chefnogaeth i ddioddefwyr YGG.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn falch o fod y cyntaf yng Nghymru i gymryd yr ‘Adduned YGG’ gydag ASB Help sy’n dangos eu hymrwymiad i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a rhoi cyfle i ddioddefwyr ofyn am adolygiad.
Dywedodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn “Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith aruthrol ar ei ddioddefwyr ac, mewn rhai achosion, ar y gymuned ehangach. Yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu newydd a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, rwyf wedi tynnu sylw at atal niwed a achosir gan droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol fel blaenoriaeth.
“Mae ymateb effeithiol i YGG yn gofyn am arloesi, partneriaeth gref rhwng asiantaethau lleol, a meddylfryd sy’n rhoi dioddefwyr yn gyntaf.
“Bydd cynhadledd eleni yn taflu goleuni ar yr her bwysig sy’n ein hwynebu a’r cyfleoedd sydd ar gael i fynd i’r afael ag YGG ac edrychaf ymlaen at groesawu pawb.”
Fel rhan o'r Gynhadledd, bydd Cydlynydd YGG Heddlu Dyfed-Powys, Jessica Thomas, yn arwain y mewnbwn ar ddull Dyfed-Powys o fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, sy'n cynnwys sut mae'r heddlu yn dal, cofnodi a rheoli ymddygiad gwrthgymdeithasol; rôl y cydlynwyr a'r cyfryngwyr, a'r ymyriadau lefel isel a'r dulliau adferol. Bydd Sgyrsiau Rhanbarthol hefyd yn cael eu cynnal yn ogystal â mewnbwn gan ddioddefwyr YGG a phartneriaid lleol.
Cynhaliwyd Cynhadledd y llynedd ar-lein oherwydd y cyfyngiadau o ganlyniad i bandemig COVID-19. Eleni, bydd y Gynhadledd ar-lein gyda nifer cyfyngedig o leoedd ar gael i unigolion fynychu’r Gynhadledd mewn person, ym Mhencadlys yr Heddlu yng Nghaerfyrddin.
Gofynnir I unrhyw un sy'n dymuno mynychu, gysylltu a Swyddfa’r Comisiynydd ar OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk i gael y manylion angenrheidiol.
DIWEDD
Rhagor o fanylion:
Gruff Ifan
Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu