28 Ion 2022

Heddiw (28 Ionawr 2022), mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn wedi cadarnhau praesept yr heddlu ar gyfer 2022/23 yn dilyn cyfarfod o Banel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn gyfrifol am osod y gyllideb ar gyfer yr heddlu, sy’n cynnwys gosod y praesept, sef yr elfen o dreth gyngor sy’n mynd i’r heddlu.

Ar ôl proses graffu helaeth, cefnogodd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys yn unfrydol, gynnig praesept y Comisiynydd ar gyfer 2022/23 a fydd yn gweld cynnydd o 5.3%, sy’n cyfateb i gynnydd misol o £1.22 ar gyfer eiddo Band D. Wrth osod y praesept, mae Mr Llywelyn yn ystyried amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys gofyniad adnoddau’r Prif Gwnstabl i’r dyfodol, targedau recriwtio Swyddogion Heddlu, lefel y cronfeydd wrth gefn, gofynion buddsoddi i’r dyfodol ar gyfer cynlluniau seilwaith hanfodol, effeithlonrwydd a chynhyrchiant, yn ogystal ag adborth gan drigolion ardal Dyfed-Powys.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn; “Mae’n ymddangos bod pob blwyddyn yn dod â phwysau a beichiau ariannol ychwanegol ac annisgwyl, ac yn anffodus nid yw 2022/23 yn wahanol. Er gwaethaf cyllid grant ychwanegol i gefnogi recriwtio Swyddogion Heddlu ychwanegol, mae’n amlwg bod y dirwedd ariannol yn parhau i fod yn un heriol.”

“Rwy’n ymwybodol iawn o’r risgiau sy’n bygwth ein cymunedau a’r pwysau ariannol ehangach yr ydym i gyd yn eu hwynebu yn ogystal â’r angen i sicrhau gwasanaeth heddlu effeithlon ac effeithiol gan sicrhau cynaliadwyedd yn y dyfodol. Mae’r rhain wedi bod yn hollbwysig yn fy ystyriaethau.”

Bydd y cynnydd o 5.3% a gyhoeddwyd heddiw gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn gosod praesept o £290.16, fesul eiddo Band D ar gyfer 2022/23.

Bydd hyn yn codi praesept o £66.837m, yn darparu cyfanswm o grant craidd canolog a chyllid lleol o £127.521m, sef cynnydd o £7.686m/6.41% ar lefelau ariannu.

Bydd y cynnydd yn y praesept yn helpu Heddlu Dyfed-Powys yn cefnogi gweledigaeth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd o gael cymunedau diogel, ac yn galluogi datblygiadau mewn ymateb i tri blaenoriaeth allweddol y Cynllun Heddlu a Throseddu newydd ar gyfer 2021-2025. Nod y blaenoriaethau yw sicrhau bod Dioddefwyr yn cael eu cefnogi; Niwed yn cael ei atal, a bod ein System Gyfiawnder yn dod yn fwy effeithiol.

Ychwanegodd Mr Llywelyn, “Rwy’n ddiolchgar i aelodau Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys am eu cefnogaeth barhaus. Bydd y lefel hon o gyllid yn galluogi Heddlu Dyfed-Powys i ganolbwyntio ar gyflawni fy Nghynllun Heddlu a Throseddu newydd ac i barhau i ddiogelu ein cymunedau lleol dan arweiniad profiadol y Prif Gwnstabl newydd Dr Richard Lewis.”

DIWEDD

Nodiadau i'r Golygydd:

Gellir lawrlwytho copi o Gynllun Ariannol Tymor Canolig y Comisiynydd Heddlu a Throsedd sy’n cynnwys cynnig Praesept Heddlu’r CHTh i’r Panel Heddlu a Throseddu yma.

Gellir lawrlwytho copi o Gynllun Heddlu a Throseddu newydd Dyfed-Powys ar gyfer 2021-2025 yma.

 

Gwybodaeth bellach:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk