30 Ion 2024

Ddydd Mawrth 30 Ionawr, roedd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn yn siarad yn lansiad canolfan newydd yn Llanelli, sydd â’r nod o ddarparu gwasanaethau sy’n briodol i oedran, ac sy’n sensitif I hil a diwylliant cymunedau ag anghenion amlochrog a chymhleth ac sydd wedi cael eu gwthio i’r cyrion yn hanesyddol.

Mae'r Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd yn ganolfan sy'n grymuso ac yn cefnogi cymunedau ethnig amrywiol, yn benodol ymfudwyr, trwy ddarparu gwasanaeth pwrpasol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n diwallu eu hanghenion unigol.

Mae prif swyddfa’r Ganolfan wedi’i lleoli yn Abertawe ac ar ôl derbyn cyllid gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, maent bellach wedi sefydlu canolfan yn Llanelli i ddatblygu eu prosiect Llwybrau at Ffyniant yn yr ardal.

Gan gefnogi pobl ifanc o gartrefi incwm isel, y rhai sydd mewn perygl o neu sy’n ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol, a mudwyr, yn arbennig ffoaduriaid, a cheiswyr lloches, cenhadaeth gyffredinol y prosiect yw grymuso’r unigolion hyn i gyrraedd eu llawn botensial a chyfrannu’n gadarnhaol at cymdeithas.

Bydd y prosiect yn Llanelli yn cynnwys ymyriadau sy'n canolbwyntio ar Gyflogadwyedd a Chymorth Entrepreneuraidd, Clwb Lles a Meithrin Hyder ac Ymgysylltu â'r Gymuned. Trwy'r ymyriadau hyn, bydd y prosiect yn cyfrannu at greu rhanbarth mwy diogel a mwy cyfartal, lle mae niwed yn cael ei atal a lle mae'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn cael eu grymuso i ffynnu.

Mae'r prosiect yn darparu cymorth arbenigol, gan ystyried croestoriad buddiolwyr, a'u grymuso i wneud dewisiadau bywyd gwybodus a gwireddu eu huchelgais. Mae’r prosiect yn cyd-fynd yn gryf â blaenoriaethau’r Cynllun Heddlu a Throseddu a bydd yn gweithio gyda phartneriaid cyflawni allweddol i wireddu’r amcanion hyn.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn; “Rwy’n falch o fod yma heddiw ar gyfer agoriad canolfan newydd y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd yn Llanelli. Bydd y prosiect y byddant yn ei ddatblygu yn y dref a’r cyffiniau yn creu cyfleoedd i unigolion ffynnu, cyfrannu’n gadarnhaol, a llunio cymdeithas fwy cyfartal. Mae’r cyllid a ddarparwyd drwy fy Swyddfa wedi cefnogi’r Ganolfan i sefydlu’r hwb newydd yma, ac mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad a’n hymroddiad i ymateb i anghenion lleol a grymuso cymunedau amrywiol.”

Dywedodd Pennaeth Staff y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd, Kim Mamhende; "Mae heddiw yn garreg filltir arwyddocaol i ni. Rydym wrth ein bodd yn ehangu ein gwasanaethau i Lanelli, gan adeiladu ar ein llwyddiant sefydledig yn Abertawe.

“Ein cenhadaeth graidd yw grymuso’r rhai o gymunedau difreintiedig, gan eu galluogi i fod yn economaidd weithgar, ffynnu, a chyfrannu’n llawn at gymdeithas, trwy ddarparu gwasanaethau cyfannol.

“Rydym yn estyn ein diolch o galon i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd am gefnogi ein gwaith, ac edrychwn ymlaen at gael effaith gadarnhaol.”

DIWEDD

Gwybodaeth bellach

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk