13 Tach 2017

Her i leihau trosedd, canmoliaeth ar gyfer gwelliannau adeg y pwynt cyswllt cyntaf a galwad am gynlluniau cadarn ar gyfer y dyfodol i wella gwasanaethau plismona ledled yr heddlu...

Dyma rai o’r pethau a drafodwyd ym Mwrdd Atebolrwydd yr Heddlu'r mis hwn, sef fforwm cyhoeddus Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, i ddal yr heddlu i gyfrif.

 

Mae’r cyfarfod, sy’n cael ei gynnal yn chwarterol, yn gyfle i’r Comisiynydd gwestiynu perfformiad yr heddlu. Ceir sgwrs onest rhyngddo ef a’r tîm Prif Swyddogion a thrafodir cynnydd gwaith hollbwysig.

 

Yn y cyfarfod hwn, roedd Mr Llywelyn yn awyddus i drafod y cynnydd o ran troseddau a gofnodir, gan ddweud:

 

“Mae newidiadau i arferion cofnodi o fewn Heddlu Dyfed-Powys ers mis Mai eleni wedi cyfrannu at gynnydd o ran troseddau a gofnodir, ond ni ellir priodoli’r cynnydd cyfan, er ei fod yn fach o’i gymharu â’r darlun cenedlaethol, i newidiadau mewn cofnodi adeg y pwynt cyswllt cyntaf.

 

“Mae’r cynnydd yng nghyfanswm y troseddau wedi ei yrru’n bennaf gan droseddau trefn gyhoeddus a thrais yn erbyn y person, ac rwy’n awyddus i geisio sicrwydd bod yr heddlu’n mynd i’r afael yn rhagweithiol â throseddau o’r fath.”

 

Hefyd, roedd e’n awyddus i weld yr heddlu’n gwneud y defnydd gorau o’i ail-fuddsoddi sylweddol mewn TCC i dargedu mannau problemus a gyrru gostyngiadau sy’n gysylltiedig ag anhrefn a thrais.

 

Canmolwyd gwaith parhaus o fewn Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu - y man lle mae’r holl alwadau i Heddlu Dyfed-Powys yn cael eu trin a digwyddiadau’n cael eu rheoli yn y lle cyntaf. Mae’r heddlu wedi cael gwared ar amrywiadau perfformiad a achosir gan y mewnlif sylweddol o dwristiaid haf, ac roedd y Comisiynydd hefyd yn gyflym i gydnabod gwelliannau o ran cydraddoldeb gwasanaeth i’r rhai sy’n galw 999 neu 101 gan ofyn am wasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n broblem y mae’r Comisiynydd wedi gwthio i’w datrys ers cryn amser.

 

Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 13 Chwefror ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys, pan fydd gwaith yn digwydd o fewn Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh) i ystyried y cais praesept ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (yr arian a gymerir drwy’r setliad treth gyngor i gefnogi plismona). Mae gwaith ar gyfer ymgynghori â’n cymunedau ynghylch lefel y praesept yn cychwyn o ddifrif, gyda’r Comisiynydd eisoes yn gofyn i’r heddlu am achosion busnes cadarn i gefnogi’r angen ar gyfer gwariant pellach, ond hefyd i dynnu sylw at enillion effeithlonrwydd a gwelliannau o ran gwasanaeth.

 

Cynhaliwyd y cyfarfod cyhoeddus yng Ngholeg Sir Benfro ddydd Gwener 3 Tachwedd. Os hoffech fynychu cyfarfodydd o’r Bwrdd Atebolrwydd Cyhoeddus yn y dyfodol, cadwch lygad ar ein gwefan http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/ a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol Facebook a Twitter i weld sut allwch chi gymryd rhan.

 

DIWEDD