10 Maw 2021

Mae cyfiawnder adferol yn broses sy’n dod â’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan drosedd a’r rhai sy’n gyfrifol am niwed y at ei gilydd. Mae’n rhoi grym i bawb sydd wedi’u heffeithio gael rhan mewn trwsio’r niwed a dod o hyd i ffordd gadarnhaol ymlaen.

Mae Dafydd Llywelyn, eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu, wedi arwyddo llw i weithio er mwyn sicrhau bod pob dioddefydd trosedd ledled ardal Dyfed-Powys yn fwy gwybodus am Gyfiawnder Adferol, i’w galluogi i benderfynu dros eu hun pa un ai a yw’n broses maen nhw eisiau cymryd rhan ynddi.

Mae ‘Pam Fi?’, sef elusen genedlaethol sy’n cyflenwi ac yn hyrwyddo mynediad at Gyfiawnder Adferol ar gyfer pobl sydd wedi’u heffeithio gan drosedd, wedi cysylltu â phob Comisiynydd Heddlu a Throseddu i ofyn iddynt arwyddo’r llw hwn.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: “Rwy’n llawn gefnogi’r defnydd o Gyfiawnder Adferol o fewn ein system cyfiawnder troseddol lleol, ac rwy’n hapus iawn i dyngu’r llw hwn. Gall Cyfiawnder Adferol fod yn rhan hollbwysig o daith dioddefydd.

Mae’n bwysig fod dioddefwyr yn cael llais; bod ganddynt gyfle i holi cwestiynau ac esbonio sut maen nhw wedi’u heffeithio gan yr hyn ddigwyddodd.”

Dywedodd Lucy Jaffe, Cyfarwyddwr Pam Fi?: "Mae Cyfiawnder Adferol yn trawsnewid adferiad pobl sydd wedi’u heffeithio gan drosedd. Mae cymryd rhan yn ddewis personol iawn, a dylai pob dioddefydd gael cyfle i archwilio iddo ei hun. Fodd bynnag, mae gormod o bobl sydd ddim yn cael gwybod am y cyfle hwn, er bod hawl ganddynt i wybodaeth o dan y Cod Dioddefwyr.

Mae’n wych bod CHTh Llywelyn wedi llofnodi ein llw i gefnogi gwell mynediad at wasanaethau adferol ar gyfer pobl sydd wedi’u heffeithio gan drosedd.”

Fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu, o dan y Cod Ymarfer i Ddioddefwyr, mae dyletswydd ar Mr Llywelyn hefyd i sicrhau bod dioddefwyr yn medru cael mynediad at Gyfiawnder Adferol. Drwy gydol ei amser fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu, mae Mr Llywelyn wedi arddangos ei gefnogaeth a’i ymrwymiad tuag at y broses hon. Y mae wedi rhoi arian i Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru i gefnogi dioddefwyr o ran paratoi ar gyfer y broses Cyfiawnder Adferol a hwyluso cyfarfodydd neu gyfathrebu â’r troseddwr.

Dywedodd David Masters, Rheolwr Mentora a Chyfiawnder Adferol Gwasanaethau Prawf Cymru: “Mae ein gwasanaeth yn bwysig oherwydd mae’n rhoi llais i ddioddefwyr, a chyfle i fynegi eu barn am yr hyn sy’n digwydd nesaf ar ôl rhoi dedfryd ar gyfer trosedd. Mae gan nifer o ddioddefwyr trosedd gwestiynau am yr hyn ddigwyddodd, ac mae Cyfiawnder Adferol yn rhoi cyfle ichi gwrdd â’r unigolyn a gyflawnodd trosedd yn eich erbyn, neu gysylltu ag ef, holi cwestiynau, a dweud eich dweud mewn man cynorthwyedig.

“Mae cymryd rhan mewn Cyfiawnder Adferol yn wirfoddol, a gall y rhai sy’n dewis cymryd rhan newid eu meddyliau unrhyw bryd. Mae ymchwil gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi canfod y byddai 85% o ddioddefwyr sy’n cymryd rhan mewn Cyfiawnder Adferol yn ei argymell i eraill. O ran ein gwasanaeth ein hun yng Nghymru, byddai 90% o ddioddefwyr yn ei argymell i eraill.”

O ganlyniad i nifer cymharol isel o gyfeiriadau i’r gwasanaeth hwn yn lleol, ceisiodd Mr Llywelyn farn dioddefwyr am y broses Cyfiawnder Adferol ei hun, yn unol â gwaith Fforwm Ymgysylltu â Dioddefwyr Dyfed-Powys – ymagwedd bartneriaeth tuag at sicrhau bod llais dioddefwyr yn dylanwadu ar graffu ar ddarpariaeth gwasanaeth i ddioddefwyr.

Ar ôl dadansoddi canlyniadau’r gwaith ymgysylltu, cyflwynodd Swyddfa Mr Llywelyn adroddiad manwl, ynghyd â nifer o argymhellion, i aelodau’r Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol. Bydd yr adroddiad hefyd yn cael ei drafod gan gynrychiolwyr allweddol asiantaethau partner yn is-grŵp Dioddefwyr a Thystion y Bwrdd, ac yn arbennig, bydd yn cael ei gynnwys ym mhrosiect cyfredol Heddlu Dyfed-Powys, sy’n canolbwyntio ar wella’r gwasanaeth cyflawn a dderbynnir gan ddioddefwyr. Bydd yr argymhellion yn cael eu hystyried gan bartneriaid ac adroddir ar gynnydd.

Ychwanega Mr Llywelyn: “Mae’n bwysig iawn fod pob dioddefydd yn derbyn gwybodaeth am y broses Cyfiawnder Adferol, ac rwy’n addo gweithio i sicrhau bod gan bob dioddefydd yn ardal Dyfed-Powys y grym i wneud dewis personol mewn perthynas â Chyfiawnder Adferol.”

Nodiadau:

  1. Cewch ragor o wybodaeth am Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru a gwasanaethau eraill a ariennir gan y Comisiynydd ar ein gwefan: Gwasanaethau sydd ar gael i chi (dyfedpowys-pcc.org.uk)
  2. Gwybodaeth bellach gan David Masters, Rheolwr Mentora a Chyfiawnder Adferol Gwasanaethau Prawf Cymru:
  3. “Drwy Gyfiawnder Adferol, yr ydym yn cefnogi dioddefwyr trosedd i gyfathrebu â’r unigolyn a gyflawnodd trosedd yn eu herbyn i:
  • Drafod yr hyn ddigwyddodd
  • Rhannu sut mae’r trosedd wedi effeithio arnyn nhw ac eraill
  • Gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt am y drosedd
  • Dweud eu dweud am yr hyn y gallai’r unigolyn a gyflawnodd y drosedd wneud er mwyn gwneud iawn am yr hyn a wnaeth.

Gall Cyfiawnder Adferol gael ei wneud wyneb yn wyneb neu’n anuniongyrchol (er enghraifft, drwy lythyrau). Mae hwylusydd proffesiynol yn gweithio gyda phob parti sy’n rhan o’r mater pob cam o’r ffordd.

Pan mae dioddefydd trosedd eisiau cymryd rhan mewn Cyfiawnder Adferol:

  • Byddant yn cwrdd â hwylusydd proffesiynol er mwyn trafod Cyfiawnder Adferol a’r hyn maen nhw eisiau ohono
  • Bydd yr hwylusydd yn asesu pa un ai a yw’n ddiogel i bawb sy’n gysylltiedig â’r mater gymryd rhan yn y broses Cyfiawnder Adferol
  • Bydd yr hwylusydd yn gweithio gyda nhw fel eu bod nhw’n teimlo’n hyderus am yr hyn maen nhw eisiau dweud
  • Byddai’r hwylusydd yn bresennol yn ystod unrhyw gyswllt Cyfiawnder Adferol.