24 Meh 2021

Un wythnos ar ôl i ddweud eich dweud ar flaenoriaethau plismona

Dyfed-Powys am y tair blynedd nesaf

Yr wythnos hon yw cyfle olaf y cyhoedd i ddweud eu dweud ar flaenoriaethau plismona ar gyfer ardal Dyfed-Powys, gyda diwedd arolwg ac ymgynghoriad ar Gynllun Heddlu a Throsedd newydd ar gyfer yr ardal ddydd Mercher nesaf.

Dros y bedair wythnos ddiwethaf, mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys Dafydd Llywelyn wedi bod yn gofyn am eich barn wrth iddo lunio ei gynllun ar gyfer plismona a throseddu yn yr ardal ar gyfer 2022 i 2025.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn: "Rwyf wedi cael llawer o ymatebion i'r ymgynghoriad pwysig hwn eisoes gan bobl ar draws Dyfed-Powys, ond mae amser o hyd i rannu eich barn ar eich pryderon a beth yw'r blaenoriaethau.

"Rwy'n gobeithio y bydd llawer mwy o drigolion, busnesau, grwpiau cymunedol a sefydliadau partner yn ymuno â'r sgwrs dros y saith diwrnod olaf hwn i'm helpu i lunio'r Cynllun Heddlu a Throseddu newydd, a fydd yn nodi'r blaenoriaethau plismona ar gyfer yr ardal am y tair blynedd nesaf."

Y dyddiad cau i bobl ddweud eu dweud ar Gynllun Heddlu a Throsedd newydd yw Dydd Mercher, 30 Mehefin 2021. Gallwch weld yr ymgynghoriad a chwblhau'r arolwg ar-lein yn Arolygon ac Ymgynghoriadau (dyfedpowys-pcc.org.uk)

I'r rhai nad ydynt yn gallu defnyddio'r rhyngrwyd, mae copïau caled o'r holiadur ar gael drwy gysylltu a’r Swyddfa ar 01267 226440.

 

Nodiadau i Olygyddion

Os ydych yn newyddiadurwr ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y datganiad hwn i'r wasg neu os hoffech gyfweld â Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn, anfonwch e-bost at Annere Creighton, Prentis Cyfathrebu Digidol ac Ymgysylltu, yn annere.creighton@dyfed-powys.pnn.police.uk