Rôl y Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh) yn swyddog etholedig sy'n gyfrifol am sicrhau ardal blismona effeithiol ac effeithlon, ac am sicrhau bod yr heddlu lleol yn diwallu anghenion y gymuned.

Mae pob ardal heddlu’n cael ei chynrychioli gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu, heblaw Manceinion Fwyaf a Llundain, lle mae cyfrifoldebau CHTh yn nwylo'r maer. Etholwyd y deiliaid cyntaf yn 2012, a buont yn gwasanaethu am dair blynedd a hanner. Etholir Comisiynwyr dilynol ar sail pedair blynedd, gyda'r diweddaraf, Dafydd Llywelyn, wedi ei ethol ym Mai 2016 a ail-etholi yn Mai 2021.

Y cyflog ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yw £68,200 y flwyddyn. Gosodir y cyflog hwn yn genedlaethol gan yr Ysgrifennydd Cartref ar argymhellion gan y Corff Adolygu Cyflogau Uwch-swyddogion.

Pwy ydw i?

“Fy enw yw Dafydd Llywelyn, a fi yw Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys. Fel eich comisiynydd etholedig, fy mlaenoriaeth yw sicrwydd a diogelwch y trigolion a wasanaethir gan Heddlu Dyfed-powys.”

Rwy’n gyfrifol am:

  1. Osod y blaenoriaethau ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys;
  2. Cyhoeddi’r Cynllun Heddlu a Throseddu;
  3. Ymgysylltu â chymunedau a chynrychioli; llais y cyhoedd ar faterion plismona;
  4. Gweithio’n agos â phartneriaid diogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol;
  5. Cefnogi dioddefwyr a dwyn pobl i gyfiawnder
  6. Comisiynu gwasanaethau i wneud cymunedau’n fwy diogel a chefnogi’r rhai sy’n agored i niwed;
  7. Penodi’r Prif Gwnstabl, a’i ddiswyddo os oes angen;
  8. Ymdrin â chwynion a materion disgyblu yn erbyn y Prif Gwnstabl
  9. Dal y Prif Gwnstabl i gyfrif; a
  10. Gosod cyllideb flynyddol yr heddlu a’r lefel praesept;

Nid wyf yn gyfrifol am:

  1. Leoli a chyflwyno gwasanaethau heddlu o ddydd i ddydd, sef “plismona gweithredol”; neu
  2. Ymchwilio i gwynion yn erbyn swyddogion heddlu islaw y rheng o Prif Gwnstabl.