Etholwyd Dafydd Llywelyn am ail dymor i swydd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn ystod etholiadau Mai 2021.
Mae Dafydd yn gyn-Brif Dadansoddydd Cudd-wybodaeth, a bu’n gweithio yn adran gudd-wybodaeth yr heddlu am flynyddoedd lawer cyn symud i Brifysgol Aberystwyth yn 2014 er mwyn darlithio mewn Troseddeg. Mae ei yrfa wedi rhoi cryn fewnwelediad iddo i faterion plismona craidd, yn ogystal â dealltwriaeth o’r hyn y mae’r cyhoedd eisiau o’r gwasanaeth.
Yn ogystal â’i rôl fel Comisiynydd, mae Dafydd yn Gadeirydd Plismona yng Nghymru, ac mae’n chwarae rhan weithredol mewn Grwpiau amrywiol eraill, gan gynnwys:
- Bwrdd Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu
- Gwasanaethau Digidol yr Heddlu
- Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru Gyfan
- Bwrdd Adolygu Diogelu Unedig Unigol gyda Llywodraeth Cymru (Un Swyddog Cyfrifol Cymru)
- Bwrdd Plismona Cymru
- Bwrdd Rhaglen Cymunedau Mwy Diogel
- Grŵp Cyfeirio Proffesiynol Cwrs Gorchymyn Strategol
- Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Hawliau Dynol
- Rhwydwaith Cenedlaethol Troseddau Gwledig (Aelod o’r Bwrdd Gweithredol)
Fy ngweledigaeth gyffredinol ar gyfer 2021-25 yw cadw cymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ddiogel, gan gynnal ymddiriedaeth a hyder ar system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd. Darlien mwy yma.
Mae Dafydd yn siaradwr Cymraeg rhugl, yn ddyn teulu gyda 5 o blant, ac mae’n mwynhau pob math o chwaraeon, ond mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn dilyn tîm pêl droed Cymru adref a thramor.
Y cyflog ar gyfer Comisiynydd a Throseddu Dyfed-Powys yw £66,300 y flwyddyn. Gosodir y cyflog hwn yn genedlaethol gan yr Ysgrifennydd Cartref ar argymhellion y Corff Adolygu Uwch Gyflogau.
