Ariannu Cymunedol y Comisiynydd

Mae’r Cynllun Heddlu a Throseddu’n nodi blaenoriaethau’r Comisiynydd ac yn manylu ar sut y byddant yn cael eu cyflenwi.

Drwy gydol y flwyddyn, mae’r Comisiynydd yn cynnig cyfleoedd cyllido ar gyfer prosiectau a gyflenwir gan grwpiau cymunedol, sefydliadau elusennol a chyrff eraill. Mae’r Comisiynydd yn croesawu ceisiadau grant sy’n cyfrannu at gyflenwi blaenoriaethau’r Cynllun Heddlu a Throseddu ac yn gwella ansawdd bywyd ar gyfer trigolion ardal Dyfed-Powys.  

Mae’r Comisiynydd hefyd yn rhoi rhoddion elusennol i sefydliadau sy’n cyflenwi a/neu’n cefnogi gweithgarwch sy’n cadw cymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru’n ddiogel rhag niwed.  

Er mwyn bod yn gymwys i gael arian, rhaid i geisiadau ddangos sut y bydd yn cyfrannu’n uniongyrchol at gyflawni blaenoriaethau’r Cynllun Heddlu a Throseddu.

Ffurflen Gais

Ffurflen Rhodd Elusennol

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Emma Moulton ar opcc@dyfed-powys.police.uk 

Grantiau blaenorol